minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Grant hael i gefnogi twf cerddoriaeth Gymraeg yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Rydym yn falch iawn bod Cadeirlan Deiniol Sant wedi derbyn grant hael o £22,000 gan Ymddiriedolaeth Cerdd y Cadeirlannau at ddibenion datblygu ein gweinidogaeth gerdd Gymraeg yn y Gadeirlan.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i gefnogi nifer o Ysgoloriaethau’r Gân yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod a fydd yn cyfuno canu corawl dwyieithog gyda gweithgareddau i gyfoethogi’n gweinidogaeth gerdd Gymraeg, gan gynnwys cynyddu arlwy gerddoriaeth Gymraeg Côr y Gadeirlan, cynorthwyo’r di-Gymraeg gyda chanu a chyfathrebu yn Gymraeg, ac ymgysylltu ag allgymorth Cymraeg i ysgolion a sefydliadau cymunedol.

Mae’r naw mis diwethaf wedi gweld trawsnewidiad yn ein litwrgi a’n cerddoriaeth yn y Gadeirlan, gyda ffocws arbennig ar loywi ein haddoliad yn Gymraeg ac ar ddatblygu diwylliant crefyddol a chenhadol ag iddo hunaniaeth sy’n neilltuol Gymreig ac Anglicanaidd.

Bob bore Sul, rydym bellach yn dathlu gwasanaeth Cymun Bendigaid ar Gân, yr unig Gymun ar gân wythnosol yn gyfan gwbl yn Gymraeg unrhyw le yn y byd.

Rydym hefyd wedi dechrau comisiynu mwy o gerddoriaeth gysegredig Gymraeg, gan gynnwys gosodiad o’r Cymun Bendigaid gan y cyfansoddwr o Fôn, Gareth Glyn, i’w berfformio am y tro cyntaf yn Mehefin 2022 ac wedi’i ariannu gan grant gan gymdeithas gerddoriaeth Gymraeg Tŷ Cerdd.

Bydd y grant gan Ymddiriedolaeth Cerdd y Cadeirlannau yn ein galluogi i adeiladu ar y cynnydd hwn trwy ehangu eto ar repertoire y Côr, datblygu sgiliau coryddion, a dwyn â’n gweinidogaeth gerddoriaeth Gymraeg allan i’n dinas, sir ac esgobaeth.

Yn 2021, ni oedd y man addoli cyntaf yng Nghymru i gynnal gwasanaethau corawl rheolaidd yn Gymraeg. Bydd ein Hysgolheigion y Gân newydd yn ein helpu i godi’r Gymraeg yn ein mawl ac i wasanaethu ein cymuned yn well. Rydym yn hynod ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Cerdd y Cadeirlannau am yr hwb i wireddu hyn.

Joe Cooper
Cyfarwyddwr Cerdd

Bydd y gefnogaeth hon yn ein galluogi i fod yn arloesol yn ein gweinidogaeth gerdd y Gadeirlan, gan dorri tir newydd. Bydd hefyd yn caniatáu inni wneud rhywbeth cysegredig ac oesol – offrymu addoliad i Dduw sydd wedi’i wreiddio yn y fangre hon ac sy’n llifo o dir, diwylliant ac iaith. Rwy’n falch iawn o waith caled cydweithwyr dros y misoedd diwethaf i wneud y Gadeirlan yn faes ffrwythlon ar gyfer buddsoddiad mor werthfawr o gronfeydd Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth y Cadeirlannau.

Siôn B. E. Rhys Evans
Is-Ddeon

Mae Cadeirlan Deiniol Sant yn cynnig dau wasanaeth corawl ar fore Sul – ein Cymun Bendigaid ar Gân am 9.15am a’n Cymun Bendigaid Gorawl am 11am. Rydym hefyd yn cynnig Gosber ar Gân deirgwaith yr wythnos – ar y Sul am 3.30pm, ac ar ddydd Mawrth a dydd Iau am 5.30pm.

Bydd manylion yr Ysgoloriaethau Corawl ar gael ar-lein yn fuan. Cynghorir unrhyw ymgeiswyr sydd â diddordeb i gysylltu â Joe Cooper, ein Cyfarwyddwr Cerdd, am sgwrs anffurfiol.

Gellir gweld cyhoeddiad swyddogol y grant hwn ar wefan Ymddiriedolaeth Cerdd y Cadeirlannau.

Cymraeg

Generous grant to support growth of Welsh-language music at Saint Deiniol’s Cathedral

We are delighted that Saint Deiniol’s Cathedral has received a generous grant of £22,000 from the Cathedral Music Trust for the purposes of developing our Welsh-language music ministry at the Cathedral.

The grant will be used to support a number of Choral Scholarships during the coming academic year that will combine bilingual choral singing with activities to enrich our Welsh-language music ministry, including increasing the Cathedral Choir’s repertoire of Welsh-language music, assisting non-Welsh speakers with singing and communicating in Welsh, and engaging in Welsh-language outreach with schools and community organisations.

The past nine months have seen a transformation of our liturgy and music at the Cathedral, with a particular focus on enhancing our worship in Welsh and on creating an identity that is distinctively Welsh and Anglican.

Every Sunday morning, we now celebrate a Cymun Bendigaid ar Gân service, the only weekly choral Eucharist entirely in Welsh anywhere the world.

We have also begun to commission more Welsh-language sacred music, including a setting of the Holy Eucharist by the Anglesey composer, Gareth Glyn, to be premiered in June 2022 and funded by a grant from Welsh music association Tŷ Cerdd.

The grant from the Cathedral Music Trust will enable us to build on this progress by broadening yet further the Choir’s repertoire, developing the skills of singers, and taking our Welsh-language music ministry out into our city, county and diocese.

In 2021 we became the first place of worship in Wales to hold regular choral services in Welsh. Our new Choral Scholars will help us to put Welsh on an equal footing with English in our music and better serve our community. We are incredibly grateful to Cathedral Music Trust for making this a reality.

Joe Cooper
Director of Music

This funding will allow us to be pioneering in our music ministry at the Cathedral, breaking new ground. It will also allow us to do something hallowed and age-old – to offer worship to God that is grounded in this place and that flows from land, culture and language. I’m delighted that the hard work of colleagues over recent months to make the Catherdral a fertile place for such a valuable investment of the Cathedral Music Trust’s funds.

Siôn B. E. Rhys Evans
Sub-Dean

Saint Deiniol’s Cathedral offers two choral services on a Sunday morning – our Cymun Bendigaid ar Gân at 9.15am and our Choral Holy Eucharist at 11am. We also offers Choral Evensong three times a week – on Sunday at 3.30pm, and on Tuesday and Thursday at 5.30pm.

Details of Choral Scholarships will be available online shortly. Any interested applicants are advised to contact Joe Cooper, our Director of Music, for an informal conversation.

The official announcement of this grant can be seen on the Cathedral Music Trust's website.