minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Darlith Goffa y Gwir Barchg Anthony Crockett ar Eglwysoleg a Hanes yr Eglwys

"Beth yw’r ots gennyf i am y Fictoriaid?"

The Rt Revd Anthony Crockett Memorial Lecture in Ecclesiology & Church History

"What have the Victorians ever done for us?"

27/10/2022, 6:30 p.m.

English

Mae’n bleser gennym gynnig rhaglen newydd o ddarlithoedd cyhoeddus yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn 2022.

Mynediad am ddim. Nid oes angen cofrestru. Mae croeso cynnes i bawb.


Darlith Goffa’r Gwir Barchg Anthony Crockett ar Eglwysoleg a Hanes yr Eglwys 2022


Ein darlithydd

Mae Canon Janet Gough yn arbenigwr blaenllaw mewn pensaernïaeth eglwysig ac yn hyrwyddwr eglwysi hanesyddol.

Ar ôl astudio Hanes a Hanes Celf yng Nghaergrawnt, bu Canon Gough yn gweithio yn Ninas Llundain ac yna i dŷ arwerthu Sotheby’s. Rhwng 1998 a 2005 bu'n ymddiriedolwr y Churches Conservation Trust, gan ymdrechu i sicrhau bod ei heglwysi a’i thrysorau gogoneddus yn dod yn fwy adnabyddus. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Gyfarwyddwr Cadeirlannau ac Adeiladau Eglwysig cenedlaethol Eglwys Loegr, a dyfarnwyd OBE iddi am wasanaeth i dreftadaeth yn 2017. 

Mae Canon Gough awdur dau lyfr ar eglwysi a chaderilannau Saesnig, ac yn ddarlithydd rheolaidd ar bensaernïaeth a'r celfyddydau gweledol. Ers 2021, bu hefyd yn un o Ganoniaid Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor..


Darlith goffa

Mae Janet Gough yn ymuno â ni i draddodi’r cyntaf of Ddarlithoedd Coffa’r Gwir Barchg Anthony Crockett ar Eglwysoleg a Hanes yr Eglwys.

Daeth Esgob Tony Crockett yn Esgob Bangor yn 2004 a gwasanaethodd yr esgobaeth hyd ei farwolaeth yn 2008, gan weinidogaethu ym misoedd olaf ei fywyd gydag ymroddiad tryw o’i wely yn yr ysbyty a’i gapel.

Daeth Esgob Crockett â chyfoeth o brofiad i'w swydd esgobol. Dilynid curadiaethau yn Aberdâr a'r Eglwys Newydd gan berigloriaethau mewn plwyfi gwledig yn sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag yn nhref ddiwydiannol Merthyr; gwasanaethodd hefyd am flynyddoedd lawer fel ysgrifennydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.

Ysgrifennodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru ar y pryd, mewn ysgrif goffa yn 2008 i Esgob Crocett fod yn “ddigywilydd o ryddfrydol o ran diwinyddiaeth, yn weddol geidwadol yn litwrgaidd, ac yn cynnig ei farn yn argyhoeddiadol, yn berswadiol, ac weithiau’n eithaf dirdynnol. Wedi’r cyfan, enillodd raddau yn y Clasuron a Diwinyddiaeth o Goleg y Brenin, Llundain, lle’r aeth ar ôl ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, ysgol yr oedd yn hynod falch ohoni. Gallai fod yn ffyrnig ei ddadl gyda’r rhai yr oedd yn eu hystyried yn gyfartal o ran deallusrwydd, ond yn dyner gyda’r rhai nad oeddent, ac a oedd â’r gallu, serch hynny, i uniaethu’n gynnes â’r rhai yr oedd yn anghytuno fwyaf â hwy.”

Pererin ymroddedig oedd Esgob Crockett, yn cerdded hanes yr Eglwys. Ym 1995, cerddodd 1,000 milltiro Le Puy yn Ffrainc i Santiago de Compostela yn Sbaen. Cerddodd hefyd lwybr y pererinion o Glynnog Fawr i Aberdaron, ac o Fangor ar hyd arfordir gorllewinol Cymru i Dyddewi.


Beth yw’r ots gennyf i am y Fictoriaid? George Gilbert Scott a phensaernïaeth eglwysig Fictoraidd

Gwnaeth y Fictoriaid farc enfawr ar bensaernïaeth ac addurniadau eglwysig, gan gynnwys yn Esgobaeth Bangor, lle cafodd eglwysi eu hymestyn a’u hadfer, ac eglwysi trefol newydd eu hadeiladu. George Gilbert Scott oedd pensaer yr eglwys Fictoraidd par excellence, a chafodd effaith sylweddol ar Gadeirlan Sant Deiniol. Nid yw ymyriadau Fictoraidd bob amser yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr heddiw, ond rhaid deall ysblander, crefft a chydlyniad diwinyddol eu cyfraniad. Bydd Canon Gough yn ymchwilio i'r cyfoeth yr ydym wedi'i etifeddu o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30pm, ac fe’i cyflwynir gan Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Andrew Carroll Jones. Cynhelir derbyniad gwin o 6pm, ac eto ar ôl y ddarlith. Cenir Gosber ar Gân yn y Gadeirlan am 5.30pm, ac mae croeso i bawb ymuno â'n haddoliad.

Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

Cymraeg

We are delighted to offer a new programme of public lectures at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor in 2022.

Free entry. No prior registration necessary. All are welcome.


The 2022 Rt Revd Anthony Crockett Memorial Lecture in Ecclesiology & Church History


Our lecturer

Canon Janet Gough is a leading expert in in church architecture and a champion of historic churches.

After reading History and History of Art at Cambridge, Canon Gough worked in the City and then for Sotheby’s auction house. From 1998 to 2005 she was a trustee of the Churches Conservation Trust, striving to ensure its glorious churches and their treasures become better known. She then went on to become the national Director of Cathedrals & Church Buildings for the Church of England, and was awarded an OBE for services to heritage in 2017. 

Canon Gough is the author of two books on English churches and cathedral, and a regular lecturer on architecture and the visual arts. Since 2021, she has also been a Canon of Saint Deiniol’s Cathedral.


Memorial lecture

Canon Gough joins us to deliver the inaugural Rt Revd Anthony Crockett Memorial Lecture in Ecclesiology & Church History.

Bishop Tony Crockett became Bishop of Bangor in 2004 and served the diocese until his death in 2008, ministering in the last months of his life with unwavering dedication from his hospital bed and its chapel.

Bishop Crockett brought a wealth of experience to his episcopal office. Curacies at Aberdare and Whitchurch were followed by incumbencies in rural parishes in Cardiganshire and Carmarthenshire, as well as in the industrial town of Merthyr; he also served for many years as secretary of the Church in Wales’s Board of Ministry.

Dr Barry Morgan, then Archbishop of Wales, wrote in Bishop Crockett’s 2008 obituary that he was “unashamedly liberal in theology, fairly conservative liturgically, and propounded his views cogently, persuasively, and sometimes quite trenchantly. He held, after all, degrees in both Classics and Theology from King’s College, London, where he had gone after his education at Pontypridd Boys’ Grammar School, a school of which he was immensely proud. He could be fierce in argument with those whom he regarded his equal in intellect, but gentle with those who were not, and had the ability, nevertheless, to relate warmly to those with whom he disagreed the most.”

Bishop Crockett was a dedicated pilgrim, walking the history of the Church. In 1995, he walked 1,000 miles from Le Puy in France to Santiago de Compostela in Spain. He also walked the pilgrim route from Clynnog Fawr to Aberdaron, and from Bangor along the west Wales coast to St Davids.


What have the Victorians ever done for us? George Gilbert Scott and Victorian church architecture

The Victorians made a huge mark on church architecture and decoration, including in the Diocese of Bangor, where churches were extended and restored, and new urban churches built. George Gilbert Scott was the Victorian church architect par excellence, and he made a significant impact upon Saint Deiniol’s Cathedral. Victorian interventions aren’t always highly prized today, but the splendour, craft and theological coherence of their contribution must be understood. Canon Gough will delve into the wealth we have inherited from the late nineteenth century.


The lecture will begin at 6.30pm, introduced by the Archdeacon of Meirionnydd, the Venerable Andrew Carroll Jones. A drinks reception is held from 6pm, and again after the lecture. Choral Evensong is sung at the Cathedral at 5.30pm, and all are welcome to join our worship.

The lecture is delivered in English.