O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Hysbys wythnosol
Dewch i Ganu
Roedd ein diwrnod Dewch i Ganu Croeshoeliad Stainer ddydd Sadwrn yn fuddiol iawn, a chafwyd perfformiad grymus ar ei derfyn. Mae'n diolch yn fawr i bawb a fu'n rhan o'i lwyddiant - yn gantorion, cynulledifa, a cherddorion y Gadeirlan.
Rhoi dan len
Dyma ddechrau’r Sul hwn ar dymor y Dioddefaint, wrth i ddiwedd y Grawys ein dwyn tua’r Wythnos Fawr a’r Tridiau Sanctaidd.
Mae’n draddodiad rhoi croesau a delwau sanctaidd dan len yn ystod tymor y Dioddefaint. Dyma ychwanegu at natur ddwys y dyddiau hyn drwy wisgo’r eglwys mewn porffor. Dyma hefyd guddio o’n golwg ddelwedd gyfarwydd y Groes, fel y bo i’w harswyd a’i gogoniant ein syfrdanu o’r newydd wrth iddi gael ei datgelu ar Ddydd Gwener y Groglith.
Cofid
Mae cynifer o’n cynulledifa a’n gweinidogion yn hunan-ynysu oherwydd prawf Cofid positif. Cynhaliwn hwy yn ein gweddïau, a dymuno gwellhád buan i’r rhai sy’n dioddef o symtomau’r firws. Mae’n bosibl y bydd rhaid gwneud ambell newid i gynnwys ein defodau i ymdopi â rhai absenoldebau.
Yr Wythnos Fawr a’r Tridiau
Ymunwch â ni ar gyfer cymaint o ddefodau’r Wythnos Fawr a’r Tridiau â phosib. Ceir manylion llawn yn Buchedd Bangor (tt.41-43). Ymunwch â ni hefyd ar gyfer y rhagflas yn sesiwn Clas ar Zoom nos Lun.
Llyfrau’r Grawys
Mae’r Grawys yn gyfnod i astudio a myfyrio. Mae’n amser da felly i ail-lansio gwerthiant llyfrau yn y Gadeirlan, gan ein hannog ni i gyd i godi llyfr a neilltuo peth amser i ddarllen a gweddïo. Mae pedwar llyfr gan awduron lleol a rhyngwladol, a ddewiswyd ar gyfer y cyfnod hwn, mewn stoc.
God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou
Athro’r Beibl Hebraeg a Chrefydd Hynafol ym Mhrifysgol Caerwysg yn archwilio sylwedd Duw – ei gorff o’i goryn i’w sawdl. £14.50
A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier
Canon Trigiannol Cadeirlan Aberhonddu yn ein gwahodd i gerdded gydag ef yn yr Appalachiaid, Norwy, Gwlad yr Iâ, yr Alpau a mynyddoedd Cymru wrth iddo fyfyrio ar hanes, llên gwerin, barddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth. £16.50
On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff
On o’n meddylwyr a’n hawduron pwysicaf yn rhannu portreadau eang o bobl drwy gydol hanes sydd wedi ceisio atebion yn y tywyllwch – llyfr ar gyfer ein dyddiau ni. £12.50
Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled ac Iwan Bala
Y bardd (a’n pregethwr ar Sul y Dioddefaint) yn ymuno a’r artist i roi cipolwg i ni o sut y gwelsant y byd yng nghysgod Cofid a Brexit. £12.50
Darlithoedd cyhoeddus
Mae’n bleser gennym lansio pedair darlith gyhoeddus flynyddol newydd am y tro cyntaf eleni, pob un ohonynt yn cael eu cynnal er cof am ffigurau pwysig o fywyd y Gadeirlan a’r esgobaeth. Mae pob un o’r darlithoedd yn dechrau am 6.30pm, gyda Gosber ar Gân o’i flaen am 5.30pm a derbyniad gwin o 6pm.
5 Mai
Darlith Goffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru
Yr Athro Richard Wyn Jones
Pam fod Llafur yn ennill eto ac eto ac eto? Deall canrif o lwyddiant etholiadol yng Nghymru
19 Mai
Darlith Goffa y Tra Pharchg Trevor Evans ar Genhadaeth ac Efengylu
Y Parchg Ganon Mark Clavier
Anglicaniaid bwriadol, nid Anglicaniaid hap a damwain: Yr hyn y gall Anglicaniaid byd-eang ei ddysgu inni am weinidogaeth a chenhadaeth
13 Hydref
Darlith Goffa y Parchg Ddr Margaret Thrall ar Ddiwinyddiaeth a’i Arfer
Y Parchg Jarel Robinson Brown
O Calchedon i Minneapolis: Crist a’r corff Du anghaffaeladwy
27 Hydref
Darlith Goffa y Gwir Barchg Anthony Crockett ar Eglwysoleg a Hanes yr Eglwys
Canon Janet Gough
Beth yw’r ots gennyf i am y Fictoriaid? George Gilbert Scott a phensaernïaeth eglwysig Fictoraidd
Datganiadau Paned
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am
31 Mawrth | Samuel Teague | Tenor
Yn gyn Ysgolhaig Corawl yn y Gadeirlan ac yn Glerc Lleyg presennol yn Rhydychen, rydym yn croesawu Samuel Taegue yn ôl i’r Gadeirlan.
Clas
Fforwm Zoom a, 6.30pm i ddysgu, trafod a myfyrio.
4 Ebrill
Rhagflas o ddefodau’r Wythnos Fawr a’r Tridiau Sanctaidd
Buchedd Bangor
Ail rifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
Weekly notices
Come and Sing
Saturday's Come and Sing Stainer’s Crucifixion day was hugely enjoyable and resulted in a very moving performance. Our thanks to all who contributed to the day's success - visiting singers, audience and our Cathedral musicians.
Veiling
Passiontide begins this Sunday, as the end of Lent brings us towards Holy Week and the Sacred Triduum of Good Friday, Holy Saturday and Easter Day.
It is traditional to place crosses and holy images under veils during Passiontide. In part, this is done to contribute to the grave tenor of these days by draping the church in solemn purple. We also veil crosses so that we might become estranged for a while from the familiar image of the Cross, so that we might be awed and humbled anew at its glory when it is unveiled and venerated on Good Friday.
Covid
Members of our congragation and ministry team are self-isolating at present due to a positive Covid test. We hold them in our prayers, and send our best wishes for a speedy recovery to those suffering from the virus’s symptoms. It is possible that some adjustments may need to be made to the content of some of our observances to cope with certain absences.
Holy Week & the Sacred Triduum
Please join us for as many of the observances of Holy Week and the Triduum as possible. There are full details in Buchedd Bangor (pp.41-43). Join us, too, for the preview in Monday’s Clas session on Zoom.
Lent books
Lent is a time for study and reflection. It’s therefore a good time to relaunch the sale of books at the Cathedral, encouraging us all to pick up a book and put aside some time to read and pray. Four books by local and international authors, chosen for this time, are in stock.
God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou
The Professor of Hebrew Bible & Ancient Religion at the University of Exeter explores the substance of God – Yahweh’s body, from top to bottom. £14.50
A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier
The Canon Residentiary of Brecon Cathedral invites us to walk with him in the Appalachians, Norway, Iceland, the Alps and around Wales as he reflects on history, folklore, poetry, philosophy and theology. £16.50
On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff
One of our most important thinkers and writers share wide-ranging portraits of people throughout history who have sought answers in dark times – a book for our times today. £12.50
Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled & Iwan Bala
A poet (and our preacher on Passion Sunday) teams up with an artist to give us a glimpse of how they saw the world in the shadow of Covid and Brexit. £12.50
Public lectures
We’re delighted to be hosting four new annual public lectures for the first time this year, each of them held in memory of impoertant figures from the life of the Catherdral and the diocese.
Each of the lectures begins at 6.30pm, preceded by Choral Evensong at 5.30pm and a wine reception from 6pm.
5 May
The Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History and Culture
Professor Richard Wyn Jones
Why does Labour win again and again and again? Understanding a century of electoral success in Wales
19 May
The Very Revd Trevor Evans Memorial Lecture in Mission and Evangelism
The Revd Canon Mark Clavier
Anglicans by intention rather than by accident: What global Anglicans can teach us about ministry and mission
13 October
The Revd Dr Margaret Thrall Memorial Lecture in Theology and Praxis
The Revd Jarel Robinson Brown
From Chalcedon to Minneapolis: Christ and the elusive Black body
27 October
The Rt Revd Anthony Crockett Memorial Lecture in Ecclesiology and Church History
Canon Janet Gough
What have the Victorians ever done for us? George Gilbert Scott and Victorian church architecture
Coffee-break Recitals
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am
31 Mawrth | Samuel Teague | Tenor
A former Choral Scholar at the Cathedral and current Lay Clerk in Oxford, we welcome Samuel Taegue back to the Cathedral.
Clas
A fortnightly Zoom forum at 6.30pm to learn, discourse and reflect.
4 April
A preview of Holy Week and the Sacred Triduum
Buchedd Bangor
The second edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine
This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.