O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Hysbys wythnosol
Gwasanaeth Ordeinio
Mae’n diolch yn fawr i bawb o bob rhan o fywyd y Gadeirlan a fu’n rhan o’r paratoi a’r cydweithio i alluogi gwasanaeth Ordeinio teilwng a llawen iawn ddydd Sadwrn.
Pride
Braint oedd croesawu cynrychiolwyr o’r Heddlu, y Frigad Dân, a nifer o sefyliadau ac unigolion eraill, gan gynnwys yr Archesgob, i Glos y Gadeirlan bnawn Sadwrn ar defryn gorymdaith Pride y ddinas. Braf oedd bod yn rhan o’r bwrlwm.
Cyd-Bererinion y Gadeirlan
Ein bwriad yw ail-lansio Cyfeillion y Gadeirlan dan deitl “Cyd-Bererinion y Gadeirlan”.
Dyma gyfle i rai o bell ac agos ddod yn rhan o fywyd y Gadeirlan, gan gyfranogi o’i hysbrydolrwydd, gan gefnogi ei datblygiad, a chan gyd-deithio gyda ni oll fel cyd-bererinion.
Ein nod yw dathlu’r Sul hwn yn 2023, a hithau’n ddiwedd “tymor” y Côr, fel dydd gŵyl y Cyd-Bererinion.
Os hoffech fod yn rhan o arwain y fenter hon, cysylltwch â’r Is-Ddeon.
Datganiadau Paned
Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am
30 Mehefin | Robert Jones | Organ
Mae Clerc Cabidwl y Gadeirlan ac organydd Eglwys Sant Iago ac Ein Harglwyddes, Robert Jones yn perfformio detholiad o weithiau gan gyfansoddwyr Prydeinig.
7 Gorffennaf | Edmwnd Robinson | Fiolín
Rhaglen o weithiau ar gyfer fiolín unawdol a berfformiwyd gan un o raddedigion diweddar Brifysgol Bangor.
14 Gorffennaf | Tom Howells | Clarinét
Ymunwch â Tom, gyda’i gyfeilydd David Arthur, ar gyfer rhaglen o Gerddoriaeth y clarinét o’r 20fed Ganrif, gyda cherddoriaeth yn amrywio o sgorau ffilm i Klezmer.
Buchedd Bangor
Trydydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod tan ddiwedd Mehefin. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
Weekly notices
Ordination service
We owe a debt of gratitude to everyone from all parts of the Cathedral family who were involved in the preparation and hard work on the day to enable a worthy and very joyful Ordination service on Saturday.
Pride
It was a privilege to welcome representatives of the Police Force, the Fire Brigade, and a number of other organizations and individuals, including the Archbishop, to the Cathedral Close on Saturday afternoon at the city’s Pride parade.
Pilgrim-Friends of the Cathedral
We intend to relaunch the Friends of the Cathedral under the title of “Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral”.
This is an opportunity for those from far and wide to become part of the life of the Cathedral, participating in its spirituality, supporting its development, and travelling with us all as fellow pilgrims.
We aim to celebrate this Sunday in 2023, marking as it does the end of the Choir’s “term”, as the festival day of the Pilgrim-Friends.
If you would like to be involved in leading this initiative, please contact the Sub-Dean.
Coffee-break Recitals
Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am
30 June | Robert Jones | Organ
Cathedral Chapter Clerk and organist of Our Lady and St James’, Robert Jones performs a selection of works by British composers.
7 July | Edmwnd Robinson | Violin
A programme of works for solo violin performed by a recent graduate of Bangor University.
14 July | Tom Howells | Clarinet
Join Tom, with his accompanist David Arthur, for a programme of 20th century clarinet music, with music ranging from film scores to Klezmer.
Buchedd Bangor
The third edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine
This third edition is a companion to the period to the end of June. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.