O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Hysbys wythnosol
Côr gwadd
Mae’n wych y bydd ein darpariaeth gorawl yn parhau dros fisoedd yr haf, er ar batrwm ysgafnach nac yn ystod y tymor corawl llawn. Byddwn hefyd yn croesawu ambell gôr gwadd, gan ddechrau ddydd Iau, pan fydd Côr Coleg Sant Ffransis Siafier, Lerpwl yn canu yn ystod ein Gosber ar Gân.
Cyfres bregethu newydd
“Fel coeden a blannwyd ar lan dyfroedd”
Jeremeia 17:8
Dyma ddechrau heddiw ar gyfres bregethu newydd ar fore Sul.
Mae’r Proffwyd Jeremeia yn dychmygu bywyd wedi’i fyw’n ein gyflawnder – gweledigaeth o’r ddynoliaeth wedi’i phlannu ym mhridd da Duw, wedi’i chynnal drwy wres a sychder gan ffrydiau o ddŵr bywiol, ac yn dwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da.
Galwad Iesu Grist i bob un ohonom, yn yr un modd, yw dilyn yn ei ffyrdd da ef, gan geisio’r hyn sy’n dda â’n holl nerth, a dewis y da mewn gweithredoedd pendant – a’n nod yn hyn oll fydd ymdebygu i Grist, i Dduw.
Yn ein pregethau bore Sul dros yr wythnosau hyn, byddwn yn myfyrio ar y ffynonellau sy’n ein helpu i ddirnad beth sy’n foesegol a da, a byddwn yn ystyried y rhinweddau hynny sy’n caniatáu inni feddwl, teimlo a gweithredu dros Dduw ac er daioni.
Cyfarfodydd Cynulleidfaol
Cynhelir Cyfarfodydd Cynulleidfaol yn y Gadeirlan am 6.30pm, ar ôl Gosber (am 5.30pm) ar y dyddiau canlynol: 29 Medi, 8 Rhagfyr.
Cyd-Bererinion y Gadeirlan
Ein bwriad yw ail-lansio Cyfeillion y Gadeirlan dan deitl “Cyd-Bererinion y Gadeirlan”.
Dyma gyfle i rai o bell ac agos ddod yn rhan o fywyd y Gadeirlan, gan gyfranogi o’i hysbrydolrwydd, gan gefnogi ei datblygiad, a chan gyd-deithio gyda ni oll fel cyd-bererinion.
Ein nod yw dathlu’r Sul hwn yn 2023, a hithau’n ddiwedd “tymor” y Côr, fel dydd gŵyl y Cyd-Bererinion.
Os hoffech fod yn rhan o arwain y fenter hon, cysylltwch â’r Is-Ddeon.
Datganiadau Paned
Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am
14 Gorffennaf | Tom Howells | Clarinét
Ymunwch â Tom, gyda’i gyfeilydd David Arthur, ar gyfer rhaglen o Gerddoriaeth y clarinét o’r 20fed Ganrif, gyda cherddoriaeth yn amrywio o sgorau ffilm i Klezmer.
21 Gorffennaf | Amy Irvine | Ffliwt
Mae Amy yn perfformio rhaglen o gerddoriaeth o’r Unol Daleithiau i Awstralia, gan ddwyn i gof luniau o diroedd pell ac agos.
28 Gorffennaf | Daniel Pett | Fiola
Mae Daniel Pett ac Alex Dakin, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd ers blynyddoedd lawer, yn dod â rhaglen syrpreis o gerddoriaeth i’r fiola a’r piano, gan ddod â’n cyfres o ddatganiadau haf i ben.
The Very Gate of Heaven
Mae Canon Michael Outram, a fu’n Ganon Bencantor y Gadeirlan ac sy’n awdur gweithiau am hanes y Gadeirlan, wedi cyhoeddi llyfr newydd.
Mae “The Very Gate of Heaven: The Musicians and Music of Bangor Cathedral” yn adrodd hanes Côr y Gadeirlan o’r dyddiau cynnar hyd 1969. Mae’n waith pwysig a chynhwysfawr, ac yn hanes lliwgar.
Mae copïau ar gael ar werth ar ôl gwasanaethau’r Sul am bris o £7 (gyda thaliad gydag union arian parod neu gerdyn / taliad digyswllt, os gwelwch yn dda).
Buchedd Bangor
Pedwerydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r fisoedd yr haf. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
Weekly notices
Visiting choir
We’re delighted that our choral provision will continue over the summer months, albeit in a lighter mode than during the full choral season.
We will also welcome the occasional guest choir, starting on Thursday, when the Choir of St Francis Xavier’s College, Liverpool will sing during our Choral Evensong.
New sermon series
“Like a tree planted by water” Jeremiah 17:8
This Sunday we hear the second sermon in our new sermon series at our Sunday morning services.
Jeremiah the Prophet imagines a life well-lived – a vision of humanity planted in God’s good soil, refreshed in heat and drought by streams of living water, and bearing the fruit of good works.
Jesus Christ’s call to all of us, likewise, is to follow in his good ways, to pursue the good with all our powers, and to choose the good in concrete actions – and our goal in all of this, to become Christ-like, like God.
In our Sunday morning sermons over these weeks, we will reflect on the sources that help us to discern what is ethical and good, and we will consider those virtues that allow us to think, feel and act for God and for good.
Congregational Meetings
Congregational Meetings will take place in the Cathedral at 6.30pm, after Evensong (at 5.30pm) on the following days: 29 September, 8 December.
Pilgrim-Friends of the Cathedral
We intend to relaunch the Friends of the Cathedral under the title of “Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral”.
This is an opportunity for those from far and wide to become part of the life of the Cathedral, participating in its spirituality, supporting its development, and travelling with us all as fellow pilgrims.
We aim to celebrate this Sunday in 2023, marking as it does the end of the Choir’s “term”, as the festival day of the Pilgrim-Friends.
If you would like to be involved in leading this initiative, please contact the Sub-Dean.
Coffee-break Recitals
Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am
14 July | Tom Howells | Clarinet
Join Tom, with his accompanist David Arthur, for a programme of 20th century clarinet music, with music ranging from film scores to Klezmer.
21 July | Amy Irvine | Flute
Amy brings a programme of music from the US to Australia, evoking pictures of lands near and far.
28 July | Daniel Pett | Viola
Daniel Pett and Alex Dakin, who have worked together for many years, bring us a surprise programme of music for viola and piano to draw our summer recital series to a close.
The Very Gate of Heaven
Canon Michael Outram, sometime Canon Precentor of the Cathedral and an author of works about the Cathedral’s history, has published a new book.
“The Very Gate of Heaven: Mae Musicians and Music of Bangor Cathedral” tells the story of the Cathedral Choir from the earliest days until 1969. It’s an important and comprehensive work, and a colourful history.
Copies are available for sale after Sunday services at a price of £7 (with payment by exact cash or card / contactless payment, please).
Buchedd Bangor
The fourth edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine
This fourth edition is a companion to the summer months. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.