O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Ceir llythyr 22 Rhagfyr 2021 oddi wrth yr Is-Ddeon ymaHysbys wythnosol
Defod Sancteiddrwydd
Llithoedd a Charolau’r Ystwyll yng Ngolau Cannwyll
Dydd Sul 9 Ionawr am 5.30pm
Byddwn yn ymgynnull y nos Sul hwn i addoli Duw yng Nghrist Iesu, sydd inni’n sancteiddrwydd perffaith.
Mae’n sancteiddrwydd a welodd y Doethion yn eu mysg ym Methlehem – y diweddar-ddyfodiaid hynny i’r Preseb, ond a ddysgasant yno, dan arweiniad y seren, gynrychiolaeth o ddoethineb yr holl fyd ymgrymu ger bron sancteiddrwydd Crist.
Mae traddodiad sanctaidd yn cysylltu dau amlygiad arall â’r amlygiad i’r Doethion: bedydd Crist yn Afon Iorddonen, pan y caiff ei alwedigaeth ddwyfol ei chyhoeddi a’i deall; a’i droad o ddŵr yn win yng Nghana – y cyntaf o’i arwyddion o Greadigaeth Newydd Duw.
Ac felly, y Sul hwn, awn ar daith i Fethlehem, i ddyfroedd yr Iorddonen, ac i’r wledd briodas yng Nghana Galilea, yno i weld ac addoli’r sancteiddrwydd a amlygir i ni yn Iesu Grist, Duw gyda ni.
Hwn yw’r olaf o’n tair defod draddodiadol, dirdynnol a cherddorol ar nos Sul yn ystod cyfnod y Nadolig. Dewch yn llu – bu’r ddwy ddefod flaenorol yn wych.
Maes parcio
Mae trwyddedau ar gyfer parcio yn ystod yr wythnos ym maes parcio’r Gadeirlan yn 2022 ar gael wedi gwasanaethau’r Sul. Gofynnir am rodd. Nid oes angen trwyddedau i barcio ar ddydd Sul nes bydd rhybudd pellach.
Gosber ar Gân
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ailgyflwynwyd Gosber ar Gân fel gwasanaeth dwyieithog ar ddydd Sul am 3.30pm ac ar ddydd Iau am 5.30pm. Rydyn ni wrth ein bodd y byddwn ni, o fis Chwefror ymlaen, hefyd yn gallu offrymu Gosber ar Gân ar ddydd Mawrth am 5.30pm. Cefnogwch y gwasanaethau hyn gyda’ch presenoldeb. Mae’r Gosber ar Gân hefyd yn wasanaeth rhagorol i ddod â ffrind iddo, gan gloriannu cynifer o elfennau cyfoethog ein traddodiad Anglicanaidd.
Ceremony of Carols
Benjamin Britten | Côr y Gadeirlan
Dydd Sadwrn 29 Ionawr am 5.30pm
Dewch i glywed lleisiau uchaf Côr y Gadeirlan mewn perfformiad ddirdynnol yng ngolau cannwyll o gylch rhyfeddol carolau a gweithiau eraill Benjamin Britten – y ffordd berffaith i ddod â Thymor y Nadolig i ben. Bydd Alys Bailey-Wood yn canu’r delyn. Tocynnau (£10 / £5 / plant yn rhad ac am ddim) ar gael ar y drws.
Yr wythnos o'n blaenau
Yn ddyddiol, Llun i Sadwrn
11am-3pm
Cadeirlan ar agor i bawb
12.30pm
Cymun Bendigaid | Holy Eucharist
Dydd Iau
5.30pm
Gosber ar Gân | Choral Evensong
Ymatebion | Responses, Spicer
yn C leiaf | in C minor, Dyson
Coventry Carol, Shaw
Interlude on the Coventry Carol, W. S. Lloyd Webber
Dydd Sul 16 Ionawr | Pedwerydd Sul wedi’r Nadolig
8.15am
Holy Eucharist
9.15am
Cymun Bendigaid ar Gân
Yr Is-Ddeon yn pregethu
Mi glywais lais yr Iesu’n dweud, “Kingsfold”
Yr Offeren Glyn Rhosyn, Wynn Jones
A ddoi di i’m dilyn i, “Kelvingrove”
Yr Alwad, Vaughan Williams
O Iesu, mi addewais, “Wolvercote”
Offertoire “l’Eclatante”, Corrette
11am
Choral Holy Eucharist
The Sub-Dean preaching
I heard the voice of Jesus say, “Kingsfold”
Spatzenmesse, Mozart
Will you come and follow me, “Kelvingrove”
Ave Verum, Mozart
O Jesus, I have promised, “Wolvercote”
Toccata, Dubois
3.30pm
Gosber ar Gân | Choral Evensong
Ymatebion | Responses, Spicer
yn G | in G (ATB), Sumsion
There is no Rose, Britten
An Interlude, Darke
Buchedd Bangor
MaeCylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn cyntaf yn gydymaith i’r cyfnod o Sul yr Adfent (28 Tachwedd) tan ddiwedd tymor y Nadolig ar Ŵyl Fair y Canhwyllau (30 Ionawr). Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
The 22 December 2021 letter from the Sub-Dean can be read here
Weekly notices
A Ceremony of Holiness
Epiphany Lessons and Carols by Candlelight
Sunday 9 January at 5.30pm
We will gather this Sunday evening to worship God in Christ Jesus, who is for us perfect holiness.
It is a holiness that the Magi saw in Bethlehem – those late-comers to the Crib, but whose eventual arrival, guided by the star, allowed Christ’s holiness to be revealed to representatives of the wisdom of the whole world.
Holy tradition associates two other manifestations with the manifestation to the Magi: Christ’s baptism in the River Jordan, when his divine calling was proclaimed and understood; and his turning of water into wine at Cana – the first of his signs of God’s New Heaven and New Earth.
And so, this Sunday evening, we will spend time at Bethlehem, at the Jordan, and at Cana of Galilee, there to see and worship the holiness made manifest to us in Jesus Christ, God with us.
This is the last of our three traditional, atmospheric and musically-rich carol ceremonies. Please make every effort to attend – the previous two ceremonies have been wonderful.
Car park
Weekday Cathedral car parking permits for 2022 will be available from the Cathedral team at Sunday services. A donation is requested. No permits are required to park on Sundays until further notice.
Choral Evensong
The last few months have seen the reintroduction of Choral Evensong as a bilingual service on Sundays at 3.30pm and on Thursdays at 5.30pm. We’re delighted that, from February onwards, we will also be able to offer Choral Evensong on Tuesdays at 5.30pm. Please support these services with your presence. Choral Evensong is also an excellent service to which to bring a friend along, contining as it does much of the richness of our Anglican tradition.
Ceremony of Carols
Benjamin Britten | The Cathedral Choir
Saturday 29 January at 7.30pm
Come to hear the upper voices of the Cathedral Choir in an atmospheric, candle-lit performance of Benjamin Britten’s wonderful cycle of carols and other works – the perfect way to bring Christmastide to a close. Tickets, on the door: £10 / £5 / children free.
This week
Daily from Monday to Saturday
11am-3pm
Cathedral open to all
12.30pm
Cymun Bendigaid | Holy Eucharist
Thursday
5.30pm
Gosber ar Gân | Choral Evensong
Ymatebion | Responses, Spicer
yn C leiaf | in C minor, Dyson
Coventry Carol, Shaw
Interlude on the Coventry Carol, W. S. Lloyd Webber
Sunday 16 January | Fourth Sunday after Christmas
8.15am
Holy Eucharist
9.15am
Cymun Bendigaid ar Gân
Yr Is-Ddeon yn pregethu
Mi glywais lais yr Iesu’n dweud, “Kingsfold”
Yr Offeren Glyn Rhosyn, Wynn Jones
A ddoi di i’m dilyn i, “Kelvingrove”
Yr Alwad, Vaughan Williams
O Iesu, mi addewais, “Wolvercote”
Offertoire “l’Eclatante”, Corrette
11am
Choral Holy Eucharist
The Sub-Dean preaching
I heard the voice of Jesus say, “Kingsfold”
Spatzenmesse, Mozart
Will you come and follow me, “Kelvingrove”
Ave Verum, Mozart
O Jesus, I have promised, “Wolvercote”
Toccata, Dubois
3.30pm
Gosber ar Gân | Choral Evensong
Ymatebion | Responses, Spicer
yn G | in G (ATB), Sumsion
There is no Rose, Britten
An Interlude, Darke
Buchedd Bangor
The new magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor
This first edition is a companion to the period from Advent Sunday (28 November) until the end of Christmastide on Candlemas Day (30 January). It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.