O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Hysbys wythnosol
Datganiadau Paned
Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am
Braf oedd gweld cymaint o bobl yn y cyntaf o’n Datganiadau Paned newydd ddydd Iau diwethaf, i glywed ein Cyfarwyddwr Cerdd yn rhoi’r organ ar waith.
Mae rhaglen lawn ar gyfer y tymor i ddod yn ymddangos yn rhifyn newydd Buchedd Bangor. Cefnogwch y fenter hon os gallwch, a lledaenwch y newyddion.
10 Chwefror
Martin Brown | Organ
17 Chwefror
Sarah Jones | Soprano
Clas
Clas yw’r teitl ar gyfer fforwm Zoom bob pythefnos, a fydd yn ymgynnull ar ddydd Llun am 6.30pm, i roi cyfle inni ddysgu, trafod a myfyrio. Yn bennaf, bydd sesiynau Clas yn cynnwys yr Is-Ddeon ac aelodau eraill o dîm y Gadeirlan mewn sgwrs â gwestai, am eu bywyd neu bwnc penodol y maent yn arbenigwr arno. Yna bydd cyfle i holi a thrafod. Disgwyliwn i bob sesiwn bara rhwng 45 munud ac awr.
Ystyriwch ymuno â ni mewn sgwrs a myfyrdod. ID cyfarfod Zoom yw 857 3402 4520 a’r cod pas yw 606397, a bydd yr ystafell Zoom ar agor o 6.15pm.
Mae rhaglen lawn o bum sesiwn ar gyfer y tymor i ddod yn ymddangos yn rhifyn newydd Buchedd Bangor. Ystwyriwch fynychu os gallwch, a lledaenwch y newyddion.
7 Chwefror
Y Canon dros Fywyd Cynulleidfaol a’r Is-Ddeon yn cyflwyno ein cyfres bregethu newydd, “Yno bydd dy galon”
21 Chwefror
Yr Is-Ddeon mewn sgwrs â Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol newydd Bangor
Banc Bwyd y Gadeirlan
Mae erthygl drawiadol iawn yn Buchedd Bangor am weinidogaeth y Banc Bwyd. Cofiwch y weinidogaeth allweddol honno yn eich gweddïau, os gwelwch yn dda.
Cabidwl
Bydd Cabidwl y Gadeirlan (ymddiriedolwyr y Gadeirlan) yn cwrdd ar Zoom ar 14 Chwefror.
Buchedd Bangor
Ail rifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
Weekly notices
Coffee-break Recitals
Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am
It was a delight to see so many people at the first of our new Coffee-break Recitals last Thursday, to hear our Director of Music put the organ through its paces.
A full programme for the coming season appears in the new edition of Buchedd Bangor. Please support this venture if you can, and please spread the news.
10 February
Martin Brown | Organ
17 February
Sarah Jones | Soprano
Clas
Clas is our new fortnightly Zoom forum, convening on Mondays at 6.30pm, that will provide an opportunity to learn, discourse and reflect. Largely, Clas sessions these will feature the Sub-Dean and other members of the Cathedral team in conversation with a guest, about their life or a particular topic in which they’re the expert. There will then be an opportunity for questions and discussion. We expect each session to last between 45 minutes and an hour.
Please consider joining us in conversation and reflection. The Zoom meeting ID is 857 3402 4520 and the passcode is 606397, and the Zoom room will be open from 6.15pm.
A full programme of five sessions for the coming season appears in the new edition of Buchedd Bangor. Please consider attending if you can, and please spread the news.
7 February
The Canon for Congregation Life and the Sub-Dean introducing our new sermon series, “Where the heart is”
21 February
The Sub-Dean in conversation with Mary Stallard, the new Assistant Bishop of Bangor
Cathedal Foodbank
There is a very striking article in Buchedd BangorLife about the ministry of the Cathedral Foodbank. Please remember that key ministry in your prayers.
Chapter
The Cathedral Chapter (Cathedral trustees) will meet on Zoom on 14 February.
Buchedd Bangor
The second edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine
This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.