O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Hysbys wythnosol
Cysegriad
Mae’n diolch yn fawr iawn i bawb a baratôdd ar gyfer y Cysegriad Esgobol ddydd Sadwrn, ac i bawb a wasanaethodd yn y Gadeirlan mewn amrywiol ffyrdd mor ddiflino.
Roedd yn achlysur bendigedig, a da oedd i’r Gadeirlan allu cynnig croeso teilwng a thwymgalon i westeion a phererinion o bob cwr o Gymru.
Croesawu Esgob Cynorthwyol Bangor newydd
Ar ddydd Mawrth 1 Mawrth am 2.30pm, mae gwasanaeth esgobaethol yn cael ei gynnal yn y Gadeirlan i groesawu ein Hesgob Cynorthwyol newydd, Mary Stallard.
Mae croeso i bawb yn y gwasanaeth hwn – ymunwch â ni i groesawu ein Hesgob newydd ynghyd â chyfeillion o bob cwr o’r esgobaeth.
2.30pm Cymun Bendigaid ar Gân yn ddiofryd i Ddewi Sant | Choral Holy Eucharist votive of Saint David
Yn F | in F, Sumsion
O Ddewi Sanctaidd, Wynn Jones
Bryn Calfaria, Vaughan Williams
Dydd Mercher Lludw
Mae’r Grawys yn cychwyn ar Ddydd Mercher Lludw, 2 Mawrth.
Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i bob un ohonom wrth i ni ddechrau tymor o edifeirwch, hunan-ymwadu, astudio ac elusengarwch.
Dethlir dau Gymun yn y Gadeirlan ar Ddydd Mercher Lludw – ein Cymun dyddiol arferol am 12.30pm, a Chymun ar Gân gyda phregeth am 5.30pm. Bydd llwch yn cael ei arddodi yn y ddau wasanaeth.
12.30pm Cymun Bendigaid ag Arddodi Lludw | Holy Eucharist with the Imposition of Ashes
Missa Fons bonitatis
Miserere omnium, Domine
5.30pm Cymun Bendigaid ar Gân ag Arddodi Lludw | Choral Holy Eucharist with the Imposition of Ashes
Y Canon dros Fywyd Cynulleidfaol yn pregethu | The Canon for Congregational Life preaching
Mass for Four Voices, Byrd
Miserere Mei, Allegri
In Manus Taus, Tallis
Ar ddyddiau Mercher dilynol yn y Grawys, byddwn yn cerdded ac yn gweddïo Gorsafoedd y Groes, gyda cherddoriaeth, am 7.30pm. Gwnewch ymdrech i fynychu defosiynau’r Grawys dros yr wythnosau nesaf.
Dydd Gweddi’r Byd
Tro’r Gadeirlan yw hi i groesawu eglwysi a chapeli Bangor i wasanaeth iaith Gymraeg Dydd Gweddi’r Byd y ddinas ddydd Gwener am 11am.
Datganiadau Paned
Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am
Mae rhaglen lawn ar gyfer y tymor yn rhifyn cyfredol Buchedd Bangor. Cefnogwch y fenter hon os gallwch, a lledaenwch y newyddion.
3 Mawrth
Georgia Payne | Trwmped
Clas
Clas yw’r teitl ar gyfer fforwm Zoom bob pythefnos, a fydd yn ymgynnull ar ddydd Llun am 6.30pm, i roi cyfle inni ddysgu, trafod a myfyrio.
Ystyriwch ymuno â ni mewn sgwrs a myfyrdod. ID cyfarfod Zoom yw 857 3402 4520 a’r cod pas yw 606397, a bydd yr ystafell Zoom ar agor o 6.15pm.
Mae rhaglen lawn o bum sesiwn ar gyfer y tymor i ddod yn ymddangos yn rhifyn newydd Buchedd Bangor. Ystwyriwch fynychu os gallwch, a lledaenwch y newyddion.
7 Mawrth
Yr Is-Ddeon mewn sgwrs â Jordan Hillebert am fywyd a gwaith y diwinydd Henri de Lubac
Buchedd Bangor
Ail rifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
Weekly notices
Consecration
Many thanks are due to all who prepared for Saturday's Episcopal Consecration, and for all who served in various capacities on the day.
It was a splendid occasion, and the Cathedral was able to offer a worthy welcome to guests and pilgrims from across Wales.
Welcoming the new Assistant Bishop of Bangor
This Tuesday 1 March at 2.30pm, a diocesan service is being held at the Cathedral to welcome our new Assistant Bishop, Mary Stallard.
All are welcome at this service – please join us to welcome our new Bishop with colleagues from across the diocese.
2.30pm Cymun Bendigaid ar Gân yn ddiofryd i Ddewi Sant | Choral Holy Eucharist votive of Saint David
Yn F | in F, Sumsion
O Ddewi Sanctaidd, Wynn Jones
Bryn Calfaria, Vaughan Williams
Ash Wednesday
Lent begins on Ash Wednesday, 2 March.
This is an important day for all of us as we begin a season of penitence, absitence, study and almsgiving. Two Eucharists are being celebrated at the Cathedral on Ash Wednesday – our usual daily Eucharist at 12.30pm, and a Choral Eucharist with sermon at 5.30pm. Ashes will be imposed at the two services.
12.30pm Cymun Bendigaid ag Arddodi Lludw | Holy Eucharist with the Imposition of Ashes
Missa Fons bonitatis
Miserere omnium, Domine
5.30pm Cymun Bendigaid ar Gân ag Arddodi Lludw | Choral Holy Eucharist with the Imposition of Ashes
Y Canon dros Fywyd Cynulleidfaol yn pregethu | The Canon for Congregational Life preaching
Mass for Four Voices, Byrd
Miserere Mei, Allegri
In Manus Taus, Tallis
On subsequent Wednesdays in Lent, we will walk and pray the Stations of the Cross, accompanied by music, at 7.30pm. Please make an effort to attend Lenten devotions over the weeks ahead.
World Day of Prayer
It’s the Cathedral’s turn to welcome Bangor’s churches and chapels to the city’s Welsh language World Day of Prayer service on Friday at 11am.
Coffee-break Recitals
Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am
A full programme for the current season appears in the new edition of Buchedd Bangor. Please support this venture if you can, and please spread the news.
3 March
Georgia Payne | Trumpet
Clas
Clas is our new fortnightly Zoom forum, convening on Mondays at 6.30pm, that provide an opportunity to learn, discourse and reflect.
Please consider joining us in conversation and reflection. The Zoom meeting ID is 857 3402 4520 and the passcode is 606397, and the Zoom room will be open from 6.15pm.
A full programme of five sessions for the coming season appears in the new edition of Buchedd Bangor. Please consider attending if you can, and please spread the news.
7 March
The Sub-Dean in conversation with Jordan Hillebert about the life and work of the theologian Henri de Lubac
Buchedd Bangor
The second edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine
This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.