O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Ceir llythyr 22 Rhagfyr 2021 oddi wrth yr Is-Ddeon ymaHysbys wythnosol
Rhagor o gynnal a chadw
Aeth sgaffaldiau fyny a daeth coed Nadolig i lawr wythnos hon yn y Gadeirlan.
Mae'r sgaffaldiau yn rhan o brosiectau cynnal a chadw i gael gwared ar rywfaint o blastr rhydd yng Nghorff yr Eglwys ac i ailaddurno rhan isaf wal yr Eil Ddeheuol.
Tra bo'r gwaith atgyweirio’n digwydd, mae cerflun defosiynol Mair Mam Duw wedi'i osod yn yr Eil Ogleddol.
Ceremony of Carols
Benjamin Britten | Côr y Gadeirlan
Dydd Sadwrn 29 Ionawr am 5.30pm
Dewch i glywed lleisiau uchaf Côr y Gadeirlan mewn perfformiad ddirdynnol yng ngolau cannwyll o gylch rhyfeddol carolau a gweithiau eraill Benjamin Britten – y ffordd berffaith i ddod â Thymor y Nadolig i ben. Bydd Alys Bailey-Wood yn canu’r delyn. Tocynnau (£10 / £5 / plant yn rhad ac am ddim) ar gael ar y drws neu arlein fan hyn.
Perfformiadau Dydd Iau
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansio cyfres o Berfformiadau Dydd Iau newydd, gan ddechrau ym mis Chwefror.
Bydd detholiad 45 munud o gerddoriaeth yn cael ei berfformio bob dydd Iau am 11.15am gan orffen mewn pryd i fwynhau cinio yn y ddinas neu fynychu’r Cymun Bendigaid am 12.30pm. O 10.45am gweinir te, coffi a chacennau.
Bydd mynediad am ddim ond gwahoddir rhoddion.
Trwy gydol mis Chwefror mae’r perfformwyr o aelwyd y Gadeirlan:
3 Chwefror
Joe Cooper
Cyfarwyddwr Cerdd
Organ
10 Chwefror
Martin Brown
Organydd
Organ
17 Chwefror
Sarah Jones
Pennaeth Datblygiad Corawl
Soprano
24 Chwefror
Harry Sullivan
Ysgolhaig yr Organ
Organ
Gwnewch nodyn yn eich dyddiaduron, ac ymestynwch wahoddiad i eraill.
Maes parcio
Mae trwyddedau ar gyfer parcio yn ystod yr wythnos ym maes parcio’r Gadeirlan yn 2022 ar gael wedi gwasanaethau’r Sul heddiw. Gofynnir am rodd. Nid oes angen trwyddedau i barcio ar ddydd Sul nes bydd rhybudd pellach.
Buchedd Bangor
MaeCylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn cyntaf yn gydymaith i’r cyfnod o Sul yr Adfent (28 Tachwedd) tan ddiwedd tymor y Nadolig ar Ŵyl Fair y Canhwyllau (30 Ionawr). Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
The 22 December 2021 letter from the Sub-Dean can be read here
Weekly notices
More maintenance
Scaffolding went up and Christmas trees came down this week at the Cathedral.
The scaffolding forms part of a maintenance projects to remove some loose plaster in the Nave and to redecorate the lower part of the South Aisle wall.
During the works, the devotional statue of Mary the Mother of God has been placed in the North Aisle.
Ceremony of Carols
Benjamin Britten | The Cathedral Choir
Saturday 29 January at 7.30pm
Come to hear the upper voices of the Cathedral Choir in an atmospheric, candle-lit performance of Benjamin Britten’s wonderful cycle of carols and other works – the perfect way to bring Christmastide to a close. Tickets from the QR code opposite, or on the door: £10 / £5 / children free.
Thursday Recitals
We’re delighted to be launching a series of Thursday Recitals, beginning in February.
A 45 minute selection of music will be performed each Thursday at 11.15am, finishing just in time to enjoy lunch in the city or attend the daily Holy Eucharist at 12.30pm. From 10.45am tea, coffee and cakes will be served.
Entrance will be free of charge though donations are invited.
Throughout February the recitalists are members of the “home team”:
3 February
Joe Cooper
Director of Music
Organ
10 February
Martin Brown
Organist
Organ
17 February
Sarah Jones
Head of Choral Development
Soprano
24 February
Harry Sullivan
Organ Scholar
Organ
Please note the slot in your diaries, and please spread the news to others who might be interested in joining us.
Car park
Weekday Cathedral car parking permits for 2022 are available from the Cathedral team at Sunday services today. A donation is requested. No permits are required to park on Sundays until further notice.
Buchedd Bangor
The new magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor
This first edition is a companion to the period from Advent Sunday (28 November) until the end of Christmastide on Candlemas Day (30 January). It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.