minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Cymorth Profedigaeth Cruse yn goleuo'r nos yn y Gadeirlan | Cruse Bereavement Support lighting the night at the Cathedral
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Hysbys wythnosol


Sul y Cofio

Y Sul hwn 14 Tachwedd, bydd ein gwasanaethau Cymun corawl yn cael eu disodli gan Wasanaeth Coffa am 10am, a fydd yn diweddu wrth y Gofeb. Bydd Maer Bangor yn bresennol, a bydd yr Esgob yn pregethu.


Coffadwriaeth

Da oedd ymgynnull gyda’r Arglwydd Raglaw, Maer y Ddinas ac aelodau’r Lleng Brydeinig Frenhinol i goffáu'r Cadoediad wrth y Gofeb ddydd Iau diwethaf.

Nos Sadwrn, roedd yn hyfryd cael ein ffrindiau o Cymorth Profedigaeth Cruse yn goleuo llwybrau'r Gadeirlan fel rhan o'u coffâd blynyddol o anwyliaid ymadawedig. Gweddïwn am eu gwaith gwerthfawr yn cefnogi'r galarus, a gellir gwneud rhoddion i'w hymdrech codi arian flynyddol yma.


Bedyddiadau

Rydym yn edrych ymlaen, yn y Choral Holy Eucharist (am 11am) yr wythnos nesaf, at Fedyddio tri aelod o'n Côr. Cynhaliwch Aine, Holly a Simon yn eich gweddïau gydol yr wythnos i ddod wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu Bedydd.


Goleuadau yng Nghorff yr Eglwys a’r Eiliau

Roedd yn wych gweld dechrau ar y gwaith o adnewyddu’r goleuadau yng Nghorff yr Eglwys a’r Eiliau, gan osod gwifrau newydd, yn ystod yr wythnos ddiwethaf hon. Bydd y gwaith yn cymryd tua phythefnos, ac yn ystod yr amser hwnnw bydd sgaffaldiau symudol yng Nghorff yr Eglwys. Gobeithiwn gadw anghyfleustra i’r lleiafswm. Bydd y goleuadau yn y Gysegrfa a’r Ysgol Gân hefyd yn cael eu hadnewyddu. Rydym yn ddiolchgar i Simon Malam, Pensaer y Gadeirlan, a’i gydweithiwr, Twm Harris-Davies, am eu cydlyniant o’r prosiect.


O’r Adfent hyd Gŵyl Fair y Canhwyllau

Ar Ŵyl Crist y Brenin, byddwn yn cyhoeddi rhifyn cyntaf ein cylchgrawn, Buchedd Bangor. Bydd yn cynnwys manylion llawn y dyefodau i’w hoffrymu a’u dathlu o Sul yr Adfent (28 Tachwedd) hyd Ŵyl Fair y Canhwyllau (30 Ionawr).

Yn y cyfamser, gwnewch nodyn o’r dair defod yng ngolau cannwyll a gynhelir ar nosweithiau Sul yn ystod y cyfnod hwn. Ni fydd Gosber ar Gân yn cael ei offrymu ar y Suliau hyn.

Defod y Goleuni

Llithoedd a Charolau’r Adfent
yng Ngolau Cannwyll
28 Tachwedd am 5.30pm

Defod Gobaith

Llithoedd a Charolau’r Nadolig
yng Ngolau Cannwyll
19 Rhagfyr am 5.30pm

Defod Sancteiddrwydd

Llithoedd a Charolau’r Ystwyll
yng Ngolau Cannwyll
9 Ionawr am 5.30pm


Llyfryn Hydref 2021

Mynnwch gopi o’r llyfryn Hydref 2021, sy’n cynnwys llythyr oddi wrth yr Is-Ddeon, cynlluniau am y misoedd nesaf, apeliadau am gymorth, ac amlinelliad o’n defodau tan Ŵyl Crist y Brenin.


Ar y Sul

Mae'n patrwm addoli yng Nghadeirlan Deiniol Sant ar y Sul fel a ganlyn:

  • dathliad o’r Holy Eucharist am 8.15am (oedfa Saesneg)
  • dathliad o’r Cymun Bendigaid ar Gân am 9.15am (yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Gymraeg)
  • dathliad o’r Choral Holy Eucharist am 11am (eto, yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Saesneg)
  • offrymiad o’r Gosber ar Gân | Choral Evensong am 3.30pm (yn draddodiadol, yn ddirdynnol ac yn gerddorol yn Seddi'r Cwîr a'r Seintwar; oedfa ddwyieithog).

Caiff paned ei weini rhwng y Cymun 9.15am ac 11am – gyda gwahoddiad i aros ar ôl y Cymun 9.15am, neu ddod yn gynnar ar gyfer y Cymun 11am; bydd diodydd oer yn cael eu gweini ar ôl y Cymun 11am.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



Weekly notices


Remembrance Sunday

This Sunday 14 November, our choral Eucharist services are replaced by a 10am Service of Remembrance, which will conclude at the War Memorial. The Mayor of Bangor will be in attendance, and the Bishop will preach.


Remembrance

It was good to gather with the Lord Lieutenant, the Mayor of the City and members of the Royal British Legion to commemorate Armistice Day at the War Memorial this past Thursday.

On Saturday night, it was wonderful to have our friends from Cruse Bereavement Support lighting up the Cathedral paths as part of their annual commemoration of lost loved ones. We pray for their valuable work supporting the grieving, and donations to their annual fundraising effort can be made here.


Baptisms

We are looking forward, at next week's Choral Holy Eucharist, to Baptizing three members of our Choir. Please hold Aine, Holly and Simon in your prayers this coming week as they prepare for the Baptism, and support them with your presence at next week's joyful service.


Lighting in the Nave and Aisles

With much relief, works to replace the light fittings in the Nave and the Aisles, supported by new wiring, began this past week. The works will take about a fortnight, during which time there will be moveable scaffolding in the Nave. We hope to keep in inconvenience to a minimum. The light fittings in the Sacristy and the Song School will also be renewed. We are grateful to Simon Malam, the Cathedral Architect, and his colleague, Twm Harris-Davies, for their coordiantion of the project.


Advent to Candlemas

On the Feast of Christ the King, we will be publishing the first edition of our magazine, Buchedd Bangor. It will contain full details of observances from Advent Sunday (28 November) to Candlemas (30 January).

In the meantime, please make a note of the three Sunday evening candle-lit ceremonies that will take place during this period. Choral Evensong will not be offered on these Sundays.

A Ceremony of Light

Advent Lessons and Carols by Candlelight
28 November at 5.30pm

A Ceremony of Hope

Christmas Lessons and Carols by Candlelight
19 December at 5.30pm

A Ceremony of Holiness

Epiphany Lessons and Carols by Candlelight
9 January at 5.30pm


Autumn 2021 booklet

Be sure to get a copy of the Autumn 2021 booklet, which includes a letter from the Sub-Dean, plans for the coming months, appeals for help, and an outline of our observances until the Feast of Christ the King.


On Sundays

Our pattern of worship at Saint Deiniol’s Cathedral consists of:

  • a celebration of the Holy Eucharist at 8.15am (quietly in the Presbytery; an English-language service)
  • a celebration of the Cymun Bendigaid ar Gân at 9.15am (joyfully, colourfully and musically in the Nave; a Welsh-language service)
  • a celebration of the Choral Holy Eucharist at 11am (again, joyfully, colourfully and musically in the Nave; an English-language service)
  • an offering of Gosber ar Gân | Choral Evensong at 3.30pm (traditionally, atmospherically and musically in the Quire & Presbytery Stalls; a bilingual service)

Coffee and tea are served between the 9.15am and 11am Eucharist – please stay after the 9.15am Eucharist, or come early for the 11am Eucharist; a drinks reception follows the 11am Eucharist.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.