O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Hysbys wythnosol
Gweddïo dros ein Harchesgob newydd
Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau at ein Hesgob ar ei ethol yn Archesgob Cymru. Bu i’r Esgob ei ethol yn Archesgob gan aelodau Coleg Ethol yr Eglwys yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf cyfarfod y Coleg yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod ddydd Llun. Cadarnhawyd ei etholiad yn Archesgob Cymru ar unwaith gan y pum esgob cadeiriol arall. Gorseddir yr Archesgob yn ein Cadeirlan yn y flwyddyn newydd. Fel Archesgob, bydd yn parhau i wasanaethu fel Esgob Bangor.
Da o beth oedd inni allu cynnull yn y Gadeirlan nos Fawrth i ddathlu Cymun Bendigaid ar Gân yn ddiofryd i’r Ysbryd Glân, i weddïo dros yr Archesgob newydd ar ei etholiad, ac dros Esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
Dyma’r ymbiliau a ddefnyddiwyd gan y Canon dros Fywyd Cynulleidfaol yn ystod y Cymun. Gallwn barhau i’w defnyddio wrth inni gynnal yr Archesgob newydd yn ein gweddïau beunyddiol.
Mawr wyt ti O Dduw, ac yn mawr yw ein mawl iti. Yr wyt yn tollti arnom fendithion lu y tu hwnt i’n deall. Gweddïwn heno am dy fendith ar Andrew John, dy gwas, ein Hesgob ac Archesgob newydd Cymru.
Diolchwn iti am y weinidogaeth a dderbyniasom oddi wrth Esgob Andrew dros y blynyddoedd; am ei angerdd dros efengylu; a’i esiampl o wasanaeth a chariad sy’n ein hannog a’n hysbrydoli. Bydded i’th Ysbryd Glân yn raslon o’i gylch gan ymdywallt arno roddion doethineb a nerth, addfwynder a thosturi.
Arweiniodd dy Fab, Iesu Grist, ei ddisgyblion gyda gofal a dealltwriaeth, gan ddatgelu ynddynt y doniau a roddast ti iddynt. Boed i Archesgob Andrew adlewyrchu arweinyddiaeth Crist, wrth iddo weithio gyda’r Eglwys gyfan i gyhoeddi dy Efengyl mewn gair a gweithred.
Gweddïwn dros deulu’r Archesgob a’i ffrindiau agos. Boed iddo ganfod wastad gyda hwy yr hedd a’r cariad, y llonyddwch a thawelwch, i’w gryfhau i gyflawni’r weinidogaeth newydd hon.
Yn olaf, gweddïwn dros Fainc yr Esgobion, am ddechreuadau newydd wrth iddynt geisio clywed dy air o’r newydd. Boed iddynt weithio gyda’i gilydd i gyhoeddi dy ogoniant a’th ddaioni, fel y gall yr holl fyd ganfod dy iachád a’r gyflawnrwydd.
Amen.
Rhagofalon Cofid
Ysgrifenna’r Is-Ddeon:
Mae’r rhain yn ddyddiau pryderus wrth i ni fonitro datblygiadau diwedderaf Cofid.
Hyderaf nad oes angen imi ein hannog ni oll i gymryd rhan yn yr ymdrechion brechu ac atgyfnerthu cyfredol. Mae ymateb yn brydlon i’r cyfleoedd i gael ein brechu a derbyn y pigiad atgyfnerthu yn rhywbeth pendant y gallwn ni i gyd ei wneud i chwarae ein rhan i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel.
Mae ein pedwar prif rhagofal Cofid yn y Gadeirlan, sydd wedi’u hargraffu ar drydedd dudalen y llyfryn hwn, yn parhau i fod mewn grym, a dyma hoelion wyth yr hyn a wnawn ni wrth ymgynnull fel cymuned y Gymuned i leihau’r risg o drosglwyddiant. Dylem hefyd dalu sylw i awgrym Llywodraeth Cymru ein bod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd personol o brofion llif-ochrol cyn gadael cartref, yn enwedig pan am fynychu gweithgareddau cymunedol.
Wrth i Lywodraeth Cymru a chyrff cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru barhau i adolygu eu rheoliadau a’u canllawiau, felly y byddwn ninnau hefyd yn adolygu ein rhagofalon yn rheolaidd yn y Gadeirlan.
Ydy, mae’r rhain yn ddyddiau pryderus. Ond mae’r rhain hefyd yn ddyddiau sanctaidd, wrth i ni baratoi, mewn calon a meddwl, i ddathlu dyfodiad Crist, sef Goleuni’r Byd, Gobaith y Cenhedloedd, a’r Wawrddydd oddi fry, a fydd yn gwawrio arnom ni waeth pa mor hir neu bryderus y nos.
Rwy’n falch ei bod yn ymddangos yn debygol, ar hyn o bryd, y byddwn yn gallu ymgynnull yn y Gadeirlan dros yr wythnosau i gadw Adfent wyliadwrus ac i ddathlu’r Ŵyl yn llawen. Gadewch imi eich hannog i gyfranogi yn yr arlwy gyfoethog i’r graddau y medrwch; i gadw gweinidogaeth y Gadeirlan yn eich gweddïau ble bynnag yr ydych dros yr wythnosau a ddaw; ac i ofalu amdanoch eich hunain ac am eich gilydd.
“Dyma gyfaill haedda ‘i garu, a’i glodfori’n fwy nag un... Frodyr, dewch, llawenhewch, diolchwch iddo, byth na thewch!”
Meseia
George Frideric Handel
Dydd Mawrth 14 Rhagfyr
7.30pm
Ymunwch â Chôr y Gadeirlan am berfformiad o Ran I a “hoff ddarnau” o oratorio enwocaf Handel, mewn fersiwn ddwyieithog newydd a chyffrous. Bydd y perfformiad yn cynnwys unawdau gan Ysgolheigion y Gân newydd y Gadeirlan, a chyfeiliant cerddorfaol gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor a cherddorion lleol eraill. Mae tocynnau (£10 oedolion / £5 consesiynau / plant yn rhad ac am ddim) ar gael ar y drws neu ymlaen llaw yma.
Defod Gobaith
Llithoedd a Charolau’r Nadolig yng Ngolau Cannwyll
Dydd Sul 19 Rhagfyr
5.30pm
Yr ail o’n tair defod draddodiadol, dirdynnol a cherddorol ar nos Sul yn ystod cyfnod y Nadolig. Ar ôl cynifer o fisoedd heriol, rydym yn ymgynnull o bob rhan o’r ddinas a’r gymuned i glywed geiriau o addewid ac i ganu carolau llawenydd. Ar ôl cynifer o fisoedd heriol, rydym yn ymgynnull o bob rhan o’r ddinas a’r gymuned i glywed geiriau o addewid mewn Naw Llith, ac i ganu carolau llawenydd. Mae’r ddefod yn rhad ac am ddim i fynychu, gyda rhoddion yn cael eu gwahodd tuag at ein Apêl Nadolig. Argymhellir cadw sedd, a gellir gwneud hynny fan hyn.
Plygain y Nadolig
Dydd Mercher 23 Rhagfyr
7.30pm
Dyma gyfle i ymgynnull ar gyfer dathliad o Blygain y Nadolig ar ei newydd wedd. Wedi eu gweu drwy ddetholiad o’r Hwyrol Weddi, bydd perfformiadau gan yr unawdydd Erin Fflur a Chôr y Gadeirlan. Cawn hefyd ganu carolau ac gwrando ar gerddi a myfyrdodau fydd yn mynd â ni ar daith hefo cymeriadau allweddol y Nadolig cyntaf. Ymestynnir gwahoddiad cynnes i chi ymuno yn y blas traddodiadau a chyfoes hwn ar ddathliad iaith Gymraeg o Ysbryd y Nadolig.
Buchedd Bangor
MaeCylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r rhifyn cyntaf yn gydymaith i’r cyfnod o Sul yr Adfent (28 Tachwedd) tan ddiwedd tymor y Nadolig ar Ŵyl Fair y Canhwyllau (30 Ionawr). Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.
Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.
Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.
Mae tudalennau 40-43 o Buchedd Bangor yn amlinellu’r dathliadau cyfoethog a chywrain sy’n cymryd lle yn y Gadeirlan dros yr Adfent a’r Nadolig, y tu hwnt i’n defodau rheolaidd a’n Cymun Nadolig.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r dyddiadau hyn a’r dathliadau eraill yn eich dyddiaduron, ac yn rhannu’r newydd.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
Weekly notices
Prayers for our new Archbishop
We send our best wishes to our Bishop on his election as Archbishop of Wales. The Bishop was elected by the Church in Wales’s Electoral College on the first day of its meeting at Holy Trinity Church, Llandrindod Wells on Monday. His election as Archbishop of Wales was immediately confirmed by the five other diocesan bishops. The new Archbishop will be enthroned at our Cathedral in the new year. As Archbishop he will continue to serve as Bishop of Bangor.
It was good that we were able, on Tuesday evening, to gather at the Cathedral to celebrate a Choral Holy Eucharist of the Holy Spirit to pray for the new Archbishop, and for all the Bishops of the Church in Wales.
These are the intercessions used by the Canon for Congregational Life during the Eucharist. May we continue to use them as we hold the new Archbishop in our daily prayers.
Great are you O God, and greatly to be praised. You pour upon us blessings beyond our comprehension. We pray this night for your blessing upon Andrew John, your servant, our Bishop and new Archbishop of Wales.
We thank you for the ministry we have received from Bishop Andrew over the years; for his passion for evangelism; and his example of service and love, by which we have been encouraged and inspired. May your Holy Spirit continue to grace him with the gifts of wisdom and strength, gentleness and compassion.
Your Son, Jesus Christ, led his disciples with care and understanding, revealing in them the gifts you bestowed on them. May Archbishop Andrew reflect Christ’s leadership, as he works with the whole Church to proclaim your Gospel in word and deed.
We pray for the Archbishop’s family and close friends. May he find, with them, the peace and love, stillness and calm, to strengthen him for this new ministry.
Finally, we pray for the Bench of Bishops, for new beginnings as they seek to hear your word afresh. May they work together to make known your glory and your great goodness, so that all the world may know of your healing power.
Amen.
Covid precautions
The Sub-Dean writes:
These are anxious days as we monitor Covid developments.
I trust it goes without saying that we should all be taking part in the vaccination and booster efforts. Responding promptly to the opportunities to be vaccinated and boosted is something concrete that we can all do to play our part in keeping ourselves and others safe.
Our four major Covid precautions at the Cathedral, printed on the third page of this booklet, continue to form the mainstay of what we must do together as a gathered Cathedral community to minimize the risk of transmission. We should also hear the Welsh Government’s suggestion that we make much greater personal use of lateral flow tests before leaving home, especially for communal activities.
As the Welsh Government and the Church in Wales’s national bodies continue frequently to review their regulations and guidance, so we will also keep under review our precautions at the Cathedral.
Yes, these are anxious days. But these are also holy days, as we prepare, in heart and mind, to celebrate Christ’s coming, who is the Light of the World, the Hope of the Nations, and the Dayspring from on high, dawning upon us no matter how long or anxious the night.
I am glad that it seems likely, at the moment, that we will to be able to gather together in the Cathedral over the weeks ahead to keep a watchful Advent and to celebrate a joyful Christmastide. Let me encourage you to participate as fully as you are able to do; to keep the Cathedral’s ministry in your prayers wherever you are over the weeks ahead; and to take care of yourselves and of one another.
“O come, O come, thou Dayspring bright! pour on our souls thy healing light... Rejoice! Emmanuel shall come to thee, O Israel.”
Messiah
George Frideric Handel
Tuesday 14 December
7.30pm
Join the Cathedral Choir for a performance of Part I and “favourite excerpts” from Handel’s most famous oratorio, in an exciting new bilingual version. The performance will feature solos from our brand-new Choral Scholars and orchestral accompaniment by Bangor University students and other local musicians. Tickets (£10 adults / £5 concessions / children free) are available on the door or in advance here.
A Ceremony of Hope
Christmas Lessons and Carols by Candlelight
Sunday 19 December
5.30pm
The second of our traditional, atmospheric and musically-rich ceremonies on a Sunday evening during the Christmas period. After so many difficult months, we gather together from across the city and the community to hear Nine Lessons of promise, and to sing carols of joy. The ceremony is free to attend, with donations invited towards our Christmas Appeal. Reserving a space is recommended, which can be done here.
Plygain y Nadolig
Wednesday 23 December
7.30pm
An opportunity to gather for a celebration of a contemporary take on the traditional Welsh-language Christmas Plygain. Woven through a selection from the Office of Evening Prayer will be performances by soloist Erin Fflur and the Cathedral Choir. We will also sing carols and listen to poems and reflections that will take us on a journey alongside the key characters of the first Christmas. You are warmly invited to join in this traditional and contemporary experience of this Welsh-language celebration of the Spirit of Christmas.
Buchedd Bangor
The new magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor
This first edition is a companion to the period from Advent Sunday (28 November) until the end of Christmastide on Candlemas Day (30 January). It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Click on the image above to read a copy.
The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.
Pages 40-43 of Buchedd Bangor outline the rich and wonderful celebrations taking place at the Cathedral over Advent and Christmas, in addition to our regular observances and Christmas Eucharists.
Please be sure to put these and other dates in your diaries.
Please also take copies away to give to others to introduce them to the life and buzz of the Cathedral.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.