O'r Ddarllenfa - 16 Mehefin 2024
Duw a Dysgwyr
Mae gwasanaeth misol newydd i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg yn dechrau yn y gadeirlan ddydd Llun 17eg Mehefin. Gwasanaeth cymun yn Gymraeg yw “Duw a Dysgwyr”, ond gyda chymorth geirfa ac ynganu yn nhrefn y gwasanaeth. Yr Esgob David Morris fydd yn cymryd y gwasanaeth, ac fel dysgwr ei hun, wedi ymgymryd â’r her o wneud yr ewcharist yn Gymraeg am y tro cyntaf. Yn dilyn y gwasanaeth bydd cyfle i ymarfer siarad Cymraeg dros ginio ysgafn. Croeso i bawb, boed yn siaradwr iaith gyntaf rhugl neu’n ddechreuwr.
Ordeiniad
Bydd ein is-ganon, Y Parchg Josie Godfrey, yn cael ei ordeinio’n offeiriad ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin am 11am. Byddai Josie wrth ei bodd yn gweld cymaint o bobl â phosibl o deulu’r gadeirlan sydd wedi bod gyda hi ar ei thaith i’r weinidogaeth ordeiniedig dros y 12 mis diwethaf. Mae croeso i bawb i’r gwasanaeth - dim angen tocynnau, ond os ydych yn bwriadu bod yno, a fyddech cystal ag anfon e-bost at mereridmorganwilliams@cinw.org.uk fel bod gennym syniad o’r niferoedd ar gyfer seddi ac arlwyo wedyn. Cadwch Josie yn eich gweddïau wrth iddi baratoi i ddechrau ei gweinidogaeth offeiriadol.
Cinio Dewch a Rhannu
Dyddiad i’ch dyddiadur: bydd y cinio dewch a’r rhannu nesaf yn dilyn y Choral Holy Eucharist am 11am ddydd Sul 30 Mehefin. Y gwasanaeth hon fydd y tro cyntaf i’r Parchg Josie Godfrey lywyddu’r cymun yn dilyn ei hordeiniad y diwrnod cynt – dewch draw i’w chefnogi. Siaradwch â Jane Coutts am ba fwyd sydd angen dod.
Gosber ar Gân
Ni fydd Gosber ddydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos hon oherwydd fydd yna recordio yn y Gadeirlan.
Datganiadau Cerdd Dydd Iau
Pob dydd Iau 1.15pm am 45 munud
20 Mehefin | Simon Lawford | Organ
27 Mehefin | Triawd Baróc
From the Lectern - 16 June 2024
Duw a Dysgwyr
A new monthly service for anyone learning Welsh starts at the cathedral on Monday 17th June. “Duw a Dysgwyr” is a communion service in Welsh, but with vocabulary and pronunciation help in the order of service. Bishop David Morris will be taking the service, and as a learner himself, has taken on the challenge of doing the eucharist in Welsh for the first time. The service will be followed by chance to practise speaking Welsh over a light lunch. All welcome, whether a fluent first language speaker or a beginner.
Ordination
Our minor canon, The Rev’d Josie Godfrey, will be ordained as a priest on Saturday 29th June at 11am. Josie would love to see as many people as possible from the cathedral family who’ve been with her on her journey into ordained ministry over the last 12 months.Everyone is welcome to the service - no tickets needed, but if you plan to be there, could you email mereridmorganwilliams@cinw.org.uk so we have an idea of numbers for seating and catering afterwards. Please keep Josie in your prayers as she prepares to start her priestly ministry.
Bring and Share Lunch
Date for your diary: the next bring and share lunch follows the 11am Choral Holy Eucharist on Sunday 30th June. This service will be the first time Revd Josie Godfrey presides at communion following her ordination the previous day - please do come along and support her. Talk to Jane Coutts about what food needs bringing.
Choral Evensong
There will be no Evensong on Monday and Tuesday this week due to recording in the Cathedral.
Thursday Recitals
Every Thursday at 1.15pm for 45 minutes
20 June | Simon Lawford | Organ
27 June | Baroque Trio