minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

O'r Ddarllenfa - 9 Mehefin 2024

Duw a Dysgwyr

Mae gwasanaeth misol newydd i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg yn dechrau yn y gadeirlan ddydd Llun 17eg Mehefin. Gwasanaeth cymun yn Gymraeg yw “Duw a Dysgwyr”, ond gyda chymorth geirfa ac ynganu yn nhrefn y gwasanaeth. Yr Esgob David Morris fydd yn cymryd y gwasanaeth, ac fel dysgwr ei hun, wedi ymgymryd â’r her o wneud yr ewcharist yn Gymraeg am y tro cyntaf. Yn dilyn y gwasanaeth bydd cyfle i ymarfer siarad Cymraeg dros ginio ysgafn. Croeso i bawb, boed yn siaradwr iaith gyntaf rhugl neu’n ddechreuwr.

Canon Secundus

Mae’r Parchg Alexier Mayes wedi’i benodi’n Ganon Secundus newydd y gadeirlan, gan gymryd lle David Morris ar ôl cael ei ddyrchafu’n esgob cynorthwyol. Fel David o’r blaen, bydd yn gweithio fel cyfarwyddwr gweinidogaeth Esgobaeth Bangor, er na fydd ganddi rôl reolaidd ym mywyd wythnosol yr gadeirlan. Ar hyn o bryd mae Alex yn offeiriad â gofal yng Nghei Connah yn Esgobaeth Llanelwy a bydd yn dechrau yn ei swydd yn swyddogol mewn gwasanaeth trwyddedu brynhawn 18 Awst.

Ordeiniad

Bydd ein Is-Ganon, Y Parchg Josie Godfrey, yn cael ei ordeinio’n offeiriad ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin am 11am. Byddai Josie wrth ei bodd yn gweld cymaint o bobl â phosibl o deulu’r gadeirlan sydd wedi bod gyda hi ar ei thaith i’r weinidogaeth ordeiniedig dros y 12 mis diwethaf. Mae croeso i bawb i’r gwasanaeth - dim angen tocynnau, ond os ydych yn bwriadu bod yno, a fyddech cystal ag anfon e-bost at mereridmorganwilliams@cinw.org.uk fel bod gennym syniad o’r niferoedd ar gyfer seddi ac arlwyo wedyn. Cadwch Josie yn eich gweddïau wrth iddi baratoi i ddechrau ei gweinidogaeth offeiriadol.

Cinio Dewch a Rhannu

Dyddiad i'ch dyddiadur: bydd y Cinio Dewch a Rhannu nesaf yn dilyn Choral Holy Eucharist am 11am dydd Sul 30 Mehefin. Y gwasanaeth hwn fydd y tro cyntaf i'r Parchedig Josie Godfrey yn llywyddu yn y cymun yn dilyn ei hordeiniad y diwrnod cynt - dewch i'w chefnogi os gwelwch yn dda. Siaradwch â Jane Coutts am ba fwyd sydd ei angen.

Datganiadau Cerdd Dydd Iau

Pob dydd Iau am 1.15pm

13 Mehefin | Samuel Johnson | Trwmped

20 Mehefin | Simon Lawford | Organ

Cymraeg

From the Lectern - 9 June 2024

Duw a Dysgwyr

A new monthly service for anyone learning Welsh starts at the cathedral on Monday 17th June. “Duw a Dysgwyr” is a communion service in Welsh, but with vocabulary and pronunciation help in the order of service. Bishop David Morris will be taking the service, and as a learner himself, has taken on the challenge of doing the eucharist in Welsh for the first time. The service will be followed by chance to practise speaking Welsh over a light lunch. All welcome, whether a fluent first language speaker or a beginner.

Canon Secundus

The Revd Alexier Mayes has been appointed as the cathedral’s new Canon Secundus, replacing David Morris after his promotion to assistant bishop. Like David previously, she’ll be working as the Director of Ministry for Bangor Diocese, though she won’t have a regular role in the weekly life of the cathedral. Alex is currently priest in charge in Connah’s Quay in St Asaph diocese and will take up her post officially at a licensing service in the afternoon of 18th August.

Ordination

Our Minor Canon, the Rev’d Josie Godfrey, will be ordained as a priest on Saturday 29th June at 11am. Josie would love to see as many people as possible from the cathedral family who’ve been with her on her journey into ordained ministry over the last 12 months. Everyone is welcome to the service - no tickets needed, but if you plan to be there, could you email mereridmorganwilliams@cinw.org.uk so we have an idea of numbers for seating and catering afterwards. Please keep Josie in your prayers as she prepares to start her priestly ministry.

Bring and Share Lunch

Date for your diary: the next bring and share lunch follows the 11am Choral Holy Eucharist on Sunday 30th June. This service will be the first time Revd Josie Godfrey presides at communion following her ordination the previous day - please do come along and support her. Talk to Jane Coutts about what food needs bringing.

Thursday Recitals

Every Thursday at 1.15pm

13 June | Samuel Johnson | Trumpet

20 June | Simon Lawford | Organ