minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Croeso cynnes i'r gwasanaeth Ordeinio

Oddi wrth yr Is-Ddeon at glerigion esgobaethol a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig

Annwyl gyfeillion

Rydyn ni wedi bod yn gweddïo yn y Gadeirlan dros yr wythnosau diwethaf dros ein ffrindiau, Selwyn a Helen, cyn eu Hordeinio’n ddiaconiaid fore Sadwrn; ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi a llawer o bobl eraill o bob cwr o’r esgobaeth i’r gwasanaeth Ordeinio. Mae Selwyn a Helen yn rhannu eu straeon galwedigaethol ar ein gwefan esgobaethol.

O ran trefniadau ymarferol: Mae'r gwasanaeth yn dechrau am 11am. Gwahoddir clerigion esgobaethol, Darllenwyr a Gweinidogion Lleyg Trwyddedig eraill i arwisgo yn Nhŷ Deiniol, erbyn 10.50am fan bellaf. Gwahoddir aelodau Cabidwl y Gadeirlan a Choleg Offeiriadol y Gadeirlan i arwisgo yng Nghapel Mair. Gwahoddir clerigion i wisgo gwisg Côr yn unol ag un o’r patrymau canlynol: (i) casog, gwenwisg a sgarff, dim cwfwl; (ii) casog a gwenwisg / cota, gyda ystola wen, dim ystola i ddiaconiaid; (iii) ar gyfer Canoniaid, patrwm ii gyda mozzetta. Gwahoddir Darllenwyr i wisgo casog, gwenwisg a sgarff, dim cwfwl.

Ar ôl y gwasanaeth ymunwch â ni i ddathlu gyda Selwyn a Helen mewn Derbyniad Gwin yng ngardd y Deondy.

Yn y gwasanaeth ei hun rydym wrth ein bodd y byddwn yn clywed am y tro cyntaf berfformiad o osodiad Cymraeg newydd o rannau cyffredin y Cymun Bendigaid, a gomisiynwyd gan y Gadeirlan gyda chymorth arian grant, ac a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr o Fôn, Gareth Glyn. Mae’r gosodiad newydd hwn yn cynrychioli rhan o fuddsoddiad parhaus y Gadeirlan mewn cerddoriaeth a gweinidogaeth Gymraeg. Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi derbyn ail grant mwy sylweddol gan Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth y Cadeirlannau (CMT) i gefnogi’r weinidogaeth gerdd hon yn 2023, a bydd ymddiriedolwr o’r CMT yn bresennol yn y gwasanaeth ac yn gwneud cyflwyniad ffurfiol o’r grant yn ystod y derbyniad gwin.

Dydd Sadwrn hefyd yw diwrnod gorymdaith Pride ym Mangor. Mae Pride yma yn golygu hyrwyddo hunan-gadarnhad, urddas, cydraddoldeb ac amlygrwydd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwîar ac sy’n cwestiynu (LHDTC+). Tra’n barchedig effro i’r amrywiaeth barn o fewn yr esgobaeth a’r Cabidwl, mae’r Gadeirlan wedi bod yn rhan o ddathliadau Pride y ddinas yn ystod mis Mehefin fel mis Pride, ac rydym yn falch y bydd gorymdaith Pride y ddinas yn dod i ben ar dir y Gadeirlan ddydd Sadwrn. Ymunwch â ni i estyn croeso i ffrindiau a chymdogion.

Edrychwn ymlaen at wasanaeth llawn gweddi a llawenydd fore Sadwrn. Estynnwch groeso cynnes i eraill o’r Ardal Weinidogaeth i ymuno â ni, wrth i ni geisio rhannu ffydd, gobaith a chariad gyda Selwyn, Helen, ein Hesgob Cynorthwyol a’n Harchesgob ar yr achlysur hapus hwn.

Yn bur iawn
Siôn


Cymraeg

A warm welcome to the Ordination service

From the Sub-Dean to diocesan clergy and Licensed Lay Ministers

Dear friends

We’ve been praying at the Cathedral these past few weeks for our friends, Selwyn and Helen, ahead of their Ordination as deacons this coming Saturday; and we’re looking forward to welcoming you and many others from across the diocese to the Ordination service. Selwyn and Helen share their vocational stories on our diocesan website.

In terms of logistics: The service begins at 11am. Diocesan clergy, Readers and other Licensed Lay Ministers are invited to vest in Tŷ Deiniol, by the latest by 10.50am. Members of the Cathedral Chapter and the Cathedral’s College of Priests are invited to vest in the Lady Chapel. Clergy are invited to wear Choir dress in accordance with one of the following patterns: (i) cassock, surplice and scarf, no hood; (ii) cassock and surplice / cotta, with a white stole, no stole for deacons; (iii) for Canons, pattern ii with a mozzetta. Readers are invited to wear cassock, surplice and scarf, no hood.

After the service please join us to celebrate with Selwyn and Helen at a Drinks Reception in the Deanery garden.

At the service itself we’re delighted that we will hear for the first time a performance of a new Welsh-language setting of the ordinary parts of the Holy Eucharist, commissioned by the Cathedral with the support of grant funding, and composed by the Anglesey composer, Gareth Glyn. This new composition represents part of the Cathedral’s ongoing investment in Welsh-language music and ministry. We are also delighted to have been awarded a second and more substantial grant by the Cathedral Music Trust to support this music ministry in 2023, and a trustee from the CMT will be present at the service and will make a formal presentation of the grant during the drinks reception.

Saturday is also the day of the Pride parade in Bangor. Pride here means the promotion of the self-affirmation, dignity, equality and increased visibility of lesbian, gay, bisexual, transgender, queer and questioning (LGBTQ+) people. While respectfully alert and awake to the diversity of views within the diocese and the Chapter, the Cathedral has been part of the city’s Pride celebrations during June as Pride month, and we’re glad that the city’s Pride parade will end in the Cathedral grounds on Saturday afternoon. Please join us in extending a welcome to friends and neighbours.

We’re looking forward to a prayerful and joyful on Saturday. Please extend a warm welcome to others from the Ministry Area to join us, as we seek to share in faith, hope and love with Selwyn, Helen, our Assistant Bishop and Archbishop at this happy occasion.

Yours in Christ
Siôn