minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Darlith Goffa y Tra Pharchg Trevor Evans ar Genhadaeth ac Efengylu

"Anglicaniaid bwriadol, nid Anglicaniaid hap a damwain"

The Very Revd Trevor Evans Memorial Lecture in Mission & Evangelism

"Anglicans by intention rather than by accident"

19/05/2022, 6:30 p.m.

English

Mae’n bleser gennym gynnig rhaglen newydd o ddarlithoedd cyhoeddus yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn 2022.

Mynediad am ddim. Nid oes angen cofrestru. Mae croeso cynnes i bawb.


Darlith Goffa y Tra Pharchg Trevor Evans ar Genhadaeth ac Efengylu 2022


Ein darlithydd

Offeiriad, diwinydd, awdur a cherddwr bryniau yw Canon Mark Clavier.

Yn wreiddiol o Dde Carolina, astudiodd Canon Clavier yn William & Mary, Ysgol Ddiwinyddol Duke a Phrifysgol Durham, ac mae wedi gwasanaethu fel offeiriad yng Ngogledd Carolina a Rhydychen, fel diwinydd academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen, ac fel arweinydd encil ar ddwy lan yr Iwerydd. Bellach mae'n Ganon Preswyl yng Nghadeirlan Aberhonddu.

Mae Canon Clavier yn awdur pum llyfr arwyddocaol, gan gynnwys On Consumer Culture, Identity, the Church and the Rhetorics of Delight ax Eloquent Wisdom: Rhetoric, Cosmology and Delight in the Theology of Augustine of Hippo. Yn 2021 cyhoeddodd A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature, lle mae’n plethu ynghyd ysgrifennu natur, cofiant, sylwebaeth gymdeithasol, myfyrdod diwinyddol, a thaith gerdded gofiadwy yn nhirwedd hynafol Cymru.


Darlith goffa

Mae Canon Clavier yn ymuno â ni i draddodi’r cyntaf of Ddarlithoedd Coffa’r Tra Pharchg Trevor Evans ar Genhadaeth ac Efengylu. 

Brodor o Ddolgellau oedd Trevor Evans. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg yr Atgyfodiad yn Mirfield, ac wedi hynny'n offeiriad gydol ei oes yn Esgobaeth Bangor. Yn dilyn gweinidogaethau llewyrchus yn Llanidloes yn y 1970au a Llanfairpwll yn yr 1980au, gwasanaethodd Deon Evans yng Nghadeirlan Deiniol Sant o 1998 hyd ei ymddeoliad yn 2004, a pharhaodd i addoli yn y Gadeirlan hyd ei farwolaeth yn 2020. Bu i ef a’i wraig, Chris, hefyd sefydlu perthynas arloesol gyda’r Eglwys Anglicanaidd yn Uganda, ac arwain encilion pererindota rheolaidd a chofiadwy i Ynys Enlli. Mae’n cael ei gofio fel efengylwr y cyffyrddodd ei weinidogaeth â bywydau llawer o bobl o fewn ein hesgobaeth a thu hwnt.


Anglicaniaid bwriadol, nid Anglicaniaid hap a damwain: Yr hyn y gall Anglicaniaid byd-eang ei ddysgu inni am weinidogaeth a chenhadaeth

Fel Anglicanaidd yng Nghymru, tueddwn i edrych dros y ffin i Loegr am adnewyddiad mewn cenhadaeth ac efengylu. Ond mae gennym ni, o fewn y teulu Anglicanaidd rhyngwladol, ffynhonnau dyfnach i dynnu ysbrydoliaeth ohonynt, a chyd-destunau mwy ffrwythlon o bosibl i ddysgu ganddynt. Daw Canon Clavier â heriau cenhadol a mewnwelediadau efengylaidd o feysydd annisgwyl.


Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30pm, ac fe’i cyflwynir gan Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Andrew Carroll Jones. Cynhelir derbyniad gwin o 6pm, ac eto ar ôl y ddarlith. Cenir Gosber ar Gân yn y Gadeirlan am 5.30pm, ac mae croeso i bawb ymuno â'n haddoliad.

Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

Cymraeg

We are delighted to offer a new programme of public lectures at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor in 2022.

Free entry. No prior registration necessary. All are welcome.


The 2022 Very Revd Trevor Evans Memorial Lecture in Mission and Evangelism


Our lecturer

Canon Mark Clavier is a priest, theologian, author and hill-walker.

Originally from South Carolina, Canon Clavier studied at William & Mary, Duke Divinity School and Durham University, and has served as a priest in North Carolina and Oxford, as an academic theologian at Cardiff and Oxford Universities, and as a retreat conductor on both sides of the Atlantic. He is currently Residentiary Canon at Brecon Cathedral.

Canon Clavier is the author of five significant books, including On Consumer Culture, Identity, the Church and the Rhetorics of Delight and Eloquent Wisdom: Rhetoric, Cosmology and Delight in the Theology of Augustine of Hippo. In 2021 he published A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature, in which he weaves together nature-writing, memoir, social commentary, theological reflection, and a memorable mountain journey in the ancient landscape of Wales.


Memorial lecture

Canon Clavier joins us to deliver the inaugural Very Revd Trevor Evans Memorial Lecture in Mission & Evangelism.

Trevor Evans was a native of Dolgellau, a student of the College of the Resurrection in Mirfield, and a life-long priest of the Diocese of Bangor. Following flourishing ministries in Llanidloes in the 1970s and Llanfairpwll in the 1980s, Dean Evans served at Saint Deiniol’s Cathedral from 1998 until his retirement in 2004, and continued to worship at the Cathedral until his death in 2020. He and his wife, Chris, also established a pioneering relationship with the Anglican Church in Uganda, and led regular and memorable pilgrimage retreats to Bardsey Island. He is remembered as a evangelist whose ministry touched the lives of many people within our diocese and beyond.


Anglicans by intention rather than by accident: What global Anglicans can teach us about ministry and mission

As Anglican in Wales, we tend to look over the border of England for examples of renewing mission and evangelism. But we have, within the international Anglican family, deeper wells from which to draw inspiration, and potentially more fruitful contexts from which to learn. Canon Clavier will bring us missional challenge and evanagelistic insight from unexpected quarters.


The lecture will begin at 6.30pm, introduced by the Archdeacon of Meirionnydd, the Venerable Andrew Carroll Jones. A drinks reception is held from 6pm, and again after the lecture. Choral Evensong is sung at the Cathedral at 5.30pm, and all are welcome to join our worship.

The lecture is delivered in English.