Darlith Goffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru
"Pam fod Llafur yn ennill eto ac eto ac eto?"The Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History & Culture
"Why does Labour win again and again and again?"05/05/2022, 6:30 p.m.
Mae’n bleser gennym gynnig rhaglen newydd o ddarlithoedd cyhoeddus yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn 2022.
Mynediad am ddim. Nid oes angen cofrestru. Mae croeso cynnes i bawb.
Darlith Goffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru 2022
Ein darlithydd
Mae'r Athro Richard Wyn Jones yn un o brif ddeallusion cyhoeddus y Gymru gyfoes.
Mae'r Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Deon Materion Cyhoeddus y brifysgol, ac y mae wedi cyfrannu'n helaeth i'r astudiaeth o wleidyddiaeth Cymru, gwleidyddiaeth ddatganoledig yn y DG a chenedlaetholdeb.
Mae’r Athro Wyn Jones yn sylwebu'n gyson yn y cyfryngau yma yng Nghymru, ar draws y DG ac yn rhyngwladol. Bu'n gyflwynwydd dwy gyfres teledu a bu'n cyfrannu colofn gyson ar wleidyddiaeth Cymru i'r cylchgrawn materion cyfoes Barn ers chwarter canrif. Mae wedi cyfrannu erthyglau i lu o bapurau a chylchgronau eraill gan gynnwys y Western Mail, Irish Times, Guardian a'r Sunday Times.
Darlith goffa
Mae’r Athro Wyn Jones yn ymuno â ni i draddodi’r cyntaf o Ddarlithoedd Coffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru.
Ganed y Dr Pierce Roberts yn Llangadfan yn yr hen Sir Drefaldwyn, ac aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, lle graddiodd yn 1938. Bu'n gweithio fel athrawes am gyfnod, cyn dod yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mangor yn 1946, lle bu hyd ei hymddeoliad yn 1978. Roedd hefyd yn aelod blaenllaw o'r Eglwys yng Nghymru, ac yn addolwr ffyddlon yn y gynulledifa Gymraeg yn Nghadeirlan Deiniol Sant.
Pam fod Llafur yn ennill eto ac eto ac eto? Deall canrif o lwyddiant etholiadol yng Nghymru
Yn dilyn llwyddiannau diweddar y Blaid Lafur yn etholiadau seneddol Cymru, bydd yr Athro Wyn Jones yn myfyrio ar ganrif o oruchafiaeth Llafur yng Nghymru, ac ar wydnwch y blaid yng Nghymru o fewn ein hinsawdd wleidyddol gythryblus bresennol.
Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30pm, ac fe’i cyflwynir gan Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Andrew Carroll Jones. Cynhelir derbyniad gwin o 6pm, ac eto ar ôl y ddarlith. Cenir Gosber ar Gân yn y Gadeirlan am 5.30pm, ac mae croeso i bawb ymuno â'n haddoliad.
Traddodir y ddarlith yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg dan ofal y Dr Siôn Aled Owen.
We are delighted to offer a new programme of public lectures at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor in 2022.
Free entry. No prior registration necessary. All are welcome.
The 2022 Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History & Culture
Our lecturer
Professor Richard Wyn Jones is one of Wales’s foremost public intellectuals.
He is Director of Cardiff University's Wales Governance and the University’s Dean of Public Affairs, and has written extensively on contemporary Welsh politics, devolved politics in the UK and nationalism.
Professor Wyn Jones Richard is a regular and widely respected broadcaster, commentating on Welsh politics in both Welsh and English for the BBC in Wales and across the UK, he has presented two TV series and is a regular columnist for the Welsh language current affairs magazine Barn, he has contributed numerous comment columns to newspapers including the Western Mail, Irish Times, Guardian and Sunday Times.
Memorial lecture
Professor Wyn Jones joins us to deliver the inaugural Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History & Culture.
Born in 1917 in Montgomeryshire, she graduated from the University College of North Wales in Bangor in 1938. During the Second World War she taught at various schools before returning to Bangor in 1946 and accepting a post as a lecturer at the Welsh Department of her old College, from which she retired in 1978. She was also a distinguished member of the Church in Wales, ac a faithful worshipper in the Welsh-language congregation of Saint Deiniol’s Cathedral.
Why does Labour win again and again and again? Understanding a century of electoral success in Wales
Following the Labour Party’s recent successes in the Welsh parliamentary elections, Professor Wyn Jones will reflect on a century of Labour dominance in Wales, and on the party’s durability in Wales within our current turbulent political climate.
The lecture will begin at 6.30pm, introduced by the Archdeacon of Meirionnydd, the Venerable Andrew Carroll Jones. A drinks reception is held from 6pm, and again after the lecture. Choral Evensong is sung at the Cathedral at 5.30pm, and all are welcome to join our worship.
The lecture is delivered in Welsh, with simultaneous translation by Dr Siôn Aled Owen into English.