Diogelu
Rhoi gwybod am bryder diogelu
Defnyddiwch ffurflen ar-lein yr Eglwys yng Nghymru i roi gwybod am bryder diogelu.
Os oes gennych chi wybodaeth am sefyllfa ddiogelu lle mae plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol neu angen sylw meddygol brys, ffoniwch y gwasanaethau brys nawr ar 999.
Ein hymrwymiad
Mae’r Esgobaeth Bangor wedi ymrwymo i ddiogelu fel rhan annatod o’i bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth.
Byddwn ni'n:
- Hyrwyddo lles plant ac oedolion mewn perygl
- Codi ymwybyddiaeth o ddiogelu yn yr Eglwys
- Gweithio i atal camdriniaeth neu niwed rhag digwydd
- Ymroi i amddiffyn ac ymateb yn dda i’r rhai sydd wedi eu cam-drin.
Ewch i'r tudalennau diogelu ar wefan yr Eglwys yng Nghymru am wybodaeth ac adnoddau polisi.
Hyfforddiant diogelu
Mae’n ofynnol i bob clerig, warden Eglwys, Darllenydd trwyddedig, gofalwyr, aelodau Cyngor Ardal Weinidogaeth, swyddogion diogelu Ardaloedd Gweinidogaeth ac unrhyw un sydd â rôl sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed gwblhau hyfforddiant Diogelu. Mae angen cwblhau'r hyfforddiant pob tair mlynedd.
Mae'r hyfforddiant diogelu wedi'i gynllunio i arfogi mynychwyr i ymgysylltu'n gadarnhaol ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed mewn modd ymarferol a gwybodus. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod yr Eglwys yn ddiogel a chroesawgar i bawb, ac wedi’i dylunio i helpu’r mynychwyr i ddeall gofynion statudol diogelu a sut y cyflawnir y rhain yng nghyd-destun yr Eglwys yng Nghymru.
Mwy o wybodaeth: Hyfforddiant Diogelu - The Church in Wales
Safeguarding
Reporting a safeguarding concern
To report a safeguarding concern, please contact the Church in Wales using the online form.
Call the emergency services on 999 if you have information about a safeguarding situation where a child or adult is in immediate danger or requires urgent medical attention.
Our commitment
The Diocese of Bangor is committed to safeguarding as an integral part of its life, mission and ministry. As such, we will:
- Promote the wellbeing of children and adults at risk
- Raise awareness of safeguarding within the Church
- Work to prevent abuse or harm from occurring
- Seek to protect and respond well to those that have been abused.
Visit the safeguarding pages on the Church in Wales website for policy information and resources.
Safeguarding training
It is requirement that all clergy, churchwardens, licences readers, vergers, MAC members, MA safeguarding officers and anyone who has a role working with children, young people or adults at risk, complete safeguarding training. The training needs to be renewed every three years.
The safeguarding training is designed to equip attendees to engage positively with the protection of children, young people and adults at risk in a practical and informed manner. It is committed to ensuring that the Church is safe and welcoming for all, and designed to help attendees understand the statutory requirements of safeguarding and how these are carried out in the context of the Church in Wales.
Visit Church in Wales safeguarding pages for training dates.