Pregeth: Bydded eich cariad yn ddiragrith
Pregethwyd y bregeth hon yng Ngwasanaeth Sefydlu Deon newydd y Gadeirlan Bangor ym mis Hydref 2025. Mae’n myfyrio ar heriau a chyfleoedd cariad dilys a lletygarwch radical yng ngweinidogaeth cadeirlan.
Boed i mi siarad yn enw’r Duw byw, y Tad, y Mab ac Ysbryd Glân. Amen.
Bydded cariad yn ddilys.
Bydded eich cariad yn ddiragrith.
Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.
Y tro diwethaf i mi glywed y geiriau hyn yn y gadeirlan hon oedd ym mis Ionawr 1997. Ordinasid 61 o ferched yn offeiriaid ledled Cymru am y tro cyntaf y penwythnos hwnnw. Yr wythnos honno roedd hi’n oer iawn, ac roedd Cymru gyfan dan eira ac iâ, gan fygwth tarfu ar bob un o’r gwasanaethau a drefnwyd yn ofalus ers wythnosau.

A minnau oedd yr ieuengaf a’r lleiaf profiadol o bell ffordd, ond roedd pawb yn fy nhrin fel fy mod yn gyfartal â merched mor alluog a phrofiadol â’r Canon Carol Evans a’r Athro Margaret Thrall. Roeddwn hefyd yn y cyfnodau cynnar iawn o feichiogrwydd, ac yn ceisio peidio â bod yn dost... Pan ddywedir ‘morning sickness’, doedd fy nghlefyd i ddim yn fater o fore yn unig, ond trwy’r dydd! Rwy’n cofio cael prydiau hyfryd yn y Ganolfan Fynychu Loreto yn Llandudno ac yn ymladd fy ffordd drwy ddysgl eog, pan am ryw reswm roedd eog yn un o’r pethau oedd yn fy ngwneud i deimlo’n sâl.
Yn y blynyddoedd cyntaf o’m gweinidogaeth, fi oedd y fenyw offeiriad gyntaf i’r rhan fwyaf o bobl gwrdd â hi, ac roeddwn yn ceisio peidio â gwneud llanast ohono i’r merched a ddilynai ar fy ôl. Bellach, fi yw’r drydedd fenyw i wasanaethu fel deon yma; yn amlach nag nid mae mwy o ferched nag o ddynion wrth y blaen yn y gadeirlan hon, ac mae ein Harchesgob yn fenyw.
Bydded cariad yn ddilys;
Bydded eich cariad yn ddiragrith.
Er mwyn i gariad fod yn wir ac yn ddilys dros y trideg mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn frwydr galed. Rydym wedi cael sawl anghydfod difrifol ynghylch rhyw ac, yn fwy diweddar, ynghylch rhywioldeb. Fel y’n hatgoffodd yr Archesgob yn bwerus yn ei haraith lywyddol i’r Corff Llywodraethol, mae’n cymryd ymdrech arbennig i garu pan fo rhywun arall yn credu’n gryf nid yn unig eich bod yn hollol anghywir, ond na ddylech hyd yn oed fod mewn gweinidogaeth.
Mae’n amlwg fy mod ar un ochr i’r ddadl, ond rwy’n cydnabod hefyd fod angen cariad o fath arbennig i barhau pan fo popeth sydd fwyaf annwyl gennych yn cael ei newid y tu hwnt i’w adnabod. Ond i mi, roeddwn yn ceisio darganfod pam roeddwn yn dal i deimlo’r poen — pam roeddwn yn teimlo mor glwyfedig. Onid dim ond gwahaniaeth o athrawiaeth, o ddewinyddiaeth, yw hyn? Roedd pobl yn arfer dweud, “Wel, rydych chi bellach wedi cael yr hyn yr oeddech ei eisiau — onid yw hynny’n ddigon?”
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cael mewnwelediad pellach i hyn — i’r rheswm pam mae wedi bod mor anodd. Wrth ysgrifennu erthygl ar gyfer cylchgrawn am Gymreictod, diwinyddiaeth ac iaith, deuthum ar draws llyfr o’r enw ‘Language Death’ gan David Crystal. Dywedodd ef hyn:
“Mae dweud bod iaith wedi marw fel dweud bod person wedi marw – ni all fod fel arall, oherwydd nid oes gan ieithoedd fodolaeth heb bobl.”
Ac mae’r un peth yn wir am rywedd a rhywioldeb. Maent oll yn elfennau sylfaenol o fod yn ddynol — iaith, corff, hunaniaeth. Ceisio dileu ei gilydd yw gweithred o drais, oherwydd trais ydyw.
Mae’r dadleuon a gawsom yn yr eglwys am rywedd a rhywioldeb wedi bod mor boenus oherwydd, yn y bôn, maent yn ymwneud â dweud wrth ei gilydd — “ni fyddech chi’n cael bod yma.” Ar y ddwy ochr i’r ddadl. A chlywch fi’n dweud hyn — mae poen ar y ddwy ochr.
Troi’r “ni fyddech chi’n cael bod yma” yn “rydym yn eich eisiau yma” yw’r newid mwyaf arwyddocaol oll. Rwyf wedi bod yn myfyrio dros yr wythnosau diwethaf, wrth ymgartrefu yn y swydd hon, pa mor ganolog yw hyn i genhadaeth cadeirlan. Rwy’n credu ei fod yn wir am bob eglwys, ond mae gan gadeirlan genhadaeth arbennig o ran croeso — croeso radical, croeso agored. Yn enwedig i’r Gadeirlan hon, sydd mewn lle amlwg yng nghanol y Stryd Fawr, yng nghalon y ddinas wych hon.
Mae cyfle arbennig yma i ddangos cariad Duw, cyfle unigryw. A dyna beth yw ein cenhadaeth ni.
Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo. Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.
Estynnwch groeso i ddieithriaid.
Dyna un o’r rhesymau y dewisais y darlleniad hwn — oherwydd y gair “lletygarwch”. Dywedir bod profi gwir gariad yn gallu bod yn brofiad trawsnewidiol, ond mae profi lletygarwch gwirioneddol yr un mor bwerus.
Bydd llawer ohonoch yn adnabod y dywediad enwog gan Maya Angelou:
“Rwyf wedi dysgu y bydd pobl yn anghofio’r hyn a ddywedasoch, bydd pobl yn anghofio’r hyn a wnaethoch, ond ni fydd pobl byth yn anghofio sut y gwnaethoch iddynt deimlo.”
Mae hynny’n wir am gariad, ac yn wir am letygarwch.
Rwy’n cofio archebu llety mewn gwesty bwyty enwog iawn ar gyfer pen-blwydd aur fy rhieni tua wyth mlynedd yn ôl. Roedd y perchennog mor garedig ar y ffôn — yn deall pa mor arbennig oedd yr achlysur, yn gwneud awgrymiadau, ac yn mynd allan o’i ffordd i sicrhau bod y noson yn un gofiadwy.
Ond pan ddaeth fy mhen-blwydd yn hanner can mlwydd oed, dywedais mai dyna oeddwn am fynd. Roedd hynny’n cyd-fynd â noson arbennig yr oeddent yn ei chynnal ar gyfer pobl ar eu rhestr bostio, gan gyflwyno bwydlen newydd.
Ond drwy gydol y noson, cawsom ein trin fel pe baem yn faich — fel pe na fyddem i fod yno o gwbl. Ni fu neb mor anhapus i’n gweld. Cawsom ein rhoi ar fwrdd bach ar wahân, tu allan i’r prif ystafell fwyta, ac roeddem yn clywed y chwerthin a’r areithiau’n llifo.
Gwelsom y staff yn mynd heibio gyda phrydau gwych, tra roedd ein gweinyddes ieuanc, oedd yn amlwg yn newydd ei gwaith, yn egluro’n nerfus fod dim ond bwydlen gyfyngedig ar gael y noson honno. Gwnaeth ei gorau glas, ond y neges oedd yn glir — “ni fyddech chi’n cael bod yma; rydych yn anghyfleus.”
Ond rwyf hefyd wedi profi’r gwrthwyneb. Un tro roeddwn yn hwyr i ddiwrnod hyfforddi yn Llanelwy, yn y Babell yn Llangollen. Cyrhaeddais yn boeth ac yn bryderus, heb wybod ym mha ystafell yr oeddem. Pan ddarganfyddais hi o’r diwedd, ofnais y byddwn yn torri ar draws y darlithydd, a phawb yn edrych. Ond pan agorais y drws, roedd pawb yn sgwrsio — roedd yn amlwg yn egwyl. Cododd yr Archddiacon, Peter Pike, a gwenu arnaf. Gwenu wnaeth eraill hefyd. Aeth ef i wneud coffi i mi a’i roi o’m blaen. Yn lle teimlo’n lletchwith, teimlais fy mod yn cael croeso — yn dderbyniol ac yn dawel fy meddwl.
Mae’r ffaith fy mod yn cofio rhywun yn gwneud paned i mi flynyddoedd yn ddiweddarach yn dangos pa mor ddylanwadol all lletygarwch syml fod.
Rwy’n caru cyfieithiad Beibl.net:
Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda.
Mae gwrthdaro’n rhan naturiol o fywyd eglwysig. Peidiwch â’i ofni — oherwydd mae rhai o’n mewnwelediadau mwyaf yn y Beibl yn dod o’r apostol Paul yn ceisio dod â phobl at ei gilydd. Ac yn ein darlleniad heddiw rydym yn clywed y geiriau hyn:
Os yw’n bosibl, cyn belled ag y mae’n dibynnu arnoch chi, byw’n heddychlon â phawb.
Weithiau, nid yw hynny’n bosibl, ac mae’n rhaid inni dderbyn hynny gyda galar. Ond — ac yma rwy’n pregethu cymaint i mi fy hun ag i chi — mae gennym ddewis, o ddydd i ddydd, o awr i awr: i garu ac i wella, neu i glwyfo ac i niweidio.
A ddylwn drosglwyddo’r sïon hwnnw? A ddylwn dybio bod rhywun yn annifyr ar bwrpas, neu a ddylwn gredu eu bod yn gwneud eu gorau?

Un o’r damcaniaethau mwyaf defnyddiol rwyf wedi’i dysgu am bobl yw’r hyn a elwir triant drama Karpman. Mae’n disgrifio sut, mewn perthnasoedd dinistriol, rydym yn cymryd rolau penodol — dioddefwr, gorthrymydd, achubwr — ac yn newid rhwng y rolau hynny’n hawdd. Gall dioddefwr droi’n orthrymydd, a’r gorthrymydd yn ddioddefwr. Yn fy mhrofiad, mae’r rôl “achubwr” yn arbennig o demtasiwn i glerigwyr — ond gallwn chwarae’r lleill hefyd!
Mae’r triant drama yn demtasiwn gwirioneddol i ni, yma yn y gadeirlan ac yn yr esgobaeth. Gall pobl glwyfedig glwyfo pobl eraill, ond dim ond drwy ddewis caru’n wirioneddol y gallwn symud ymlaen a pheidio â chael ein dal mewn gwrthdaro.
Rwy’n credu’n gryf hefyd yng ngrym un person i newid sefyllfa gyfan — hyd yn oed diwylliant cyfan. Felly os ydych chi’n meddwl, “Alla i ddim gwneud dim; dim ond un person ydw i; mae’r sefyllfa hon yn rhy fawr i mi newid” — dydw i ddim yn eich credu.
Un wrth un, drwy bob un ohonom ddewis caru’n ddilys ac yn onest, dyna’r unig beth a all adeiladu’r diwylliant cariadus a lletygar sydd ei angen arnom — yn y gadeirlan, yn yr esgobaeth, yn ein heglwysi ledled yr esgobaeth, ac yn y byd.
Cariad gwirioneddol, lletygarwch hael — dyma fu cenhadaeth y gadeirlan hon ers dros 1500 o flynyddoedd. A bydd bob amser yn genhadaeth iddi.
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.
Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda.
Yn enw Duw, Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Amen.
Sermon: Let love be genuine
This sermon was preached at the service of installation for the new Dean of Bangor Cathedral, Wales, in October 2025. It reflects on the challenges and opportunities of genuine love and radical hospitality in cathedral ministry.
Boed i mi siarad yn enw’r Duw byw, yn Dad Mab ac Ysbryd Glan, Amen.
Let love be genuine.
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni.
Glynwch wrth ddaioni.
The last time I heard these words in this cathedral it was January 1997. 61 women were ordained priest all over Wales that weekend for the first time. That week was very cold, and Wales covered in snow and ice which threatened to derail all the services that had been carefully planned for weeks.
And I was the youngest and least experienced by far, being treated as if I was the equal of such experienced and competent women as Canon Carol Evans and Professor Margaret Thrall. I was also in the very early stages of pregnancy, and trying not to be sick….. when they say morning sickness, my sickness wasn’t so much morning but all day, and I remember having lovely meals at Loreto Retreat Centre in Llandudno and struggling through a salmon dish, when for some reason salmon was one of the things that turned my stomach.
In the first years of my ministry, I was the first female priest everyone had encountered, and I tried not to mess it up for the women who followed me…. By now I am the third female dean here, most of the time there are more women than men up at the front in this cathedral, and our Archbishop is a woman.
Let love be genuine;
Bydded eich cariad yn ddiragrith.
For love to be genuine over the last 30 years has been hard won. We have had several serious disagreements about sex and now sexuality. As the Archbishop powerfully reminded us in her presidential address at Governing Body. It takes a special kind of effort to love when the other person’s strong views is that not only you are fundamentally wrong but that you shouldn’t be in ministry.

Clearly, I am on one side of the debate but I also acknowledge that it takes a special kind of love to keep on keeping on when everything you hold dear is being changed beyond all recognition. But for me I tried to work out why I was still struggling – why did I feel so hurt. Isn’t it just a difference of doctrine, of theology? People used to say – well you’ve now got what you want, isn’t that enough?
In the past few years, I have some further insight into this. Into why it’s been so difficult. I was writing a journal article about Welshness and theology and language. I came across this book called Language Death by David Crystal. He said this:
“To say that a language is dead is like saying that a person is dead.
It could be no other way – for languages have no existence without people.”
And it’s the same with gender and sexuality. They are all the fundamental aspects of being human, language, bodies, identity…….to attempt to eradicate one another feels violent because it is violent.
The arguments we’ve had in church about gender, sexuality has been so painful because at their heart it’s about saying – we don’t want you here…. On both sides of the debate. Please hear me saying this – there is pain on all sides.
Turning the we don’t want you here to we want you here is so important. I’ve been reflecting the past few weeks as I’ve been settling into this role how that very much is the mission of a cathedral. I think it’s the mission of any church really. But a cathedral needs to exercise a particular kind of welcome. A radical welcome. Especially this Cathedral, in such a prominent place on the high street. At the heart of this wonderful city.
There is a particular opportunity here to show God’s love, a unique opportunity. And that is our mission.
Rejoice in hope, be patient in suffering, persevere in prayer.
Contribute to the needs of the saints; extend hospitality to strangers.
So, I also chose this reading because of the word hospitality. They say that experiencing real love can be transformative but so can experiencing true hospitality.
You will know of the famous Maya Angelou quote “I've learned that people will forget what you said, people will forget what you did, but people will never forget how you made them feel.” True of love, true of hospitality.
I remember booking a very well-known restaurant with rooms type place for my parents’ golden wedding anniversary about 8 years ago. The owner could not have been more helpful on the phone. She understood that it was an important occasion, she made special suggestions, she went out of her way to make sure that the night was special.
Night – me and my brother couldn’t pay for a whole weekend! It was that kind of place.
So, when it came to my 50th birthday I said, that’s where I’d like to go and stay. It happened to coincide with a special evening they were putting on for a whole group of people, introducing their mailing list to a special menu.
But the whole evening we were treated as if we were a nuisance, an afterthought. We were the only guests not part of this evening devoted to their mailing list. We were given a table on our own outside the main dining room, and we could hear the laughter and the speeches.
We saw all the waiting staff going through with amazing dishes, and all we had was the youngest waitress they had, clearly very inexperienced, explaining that they had a reduced menu that night because of the special dinner. She tried her best but the message we were being given was – we don’t want you here, you are an imposition.
But I’ve also had the opposite experience. Once I was running late to a St Asaph training day in Llangollen Pavilion. I arrived, hot and anxious. I couldn’t find which room we were in. When I did manage to locate it I was worried I was going to make a scene crashing through the door and walking into the presenter, and everyone looking. What actually happened was that when I entered through the door it was at the back. People were chatting – it was clearly a break. The Archdeacon, Peter Pike got up and smiled when he saw me. Other people smiled. He ran off to make me a coffee and plonked it in front of me. So instead of feeling embarrassed and sweaty and noisy I felt welcomed, accepted and calm.
The fact that I’ve remembered someone getting me a cup of coffee years later shows what kind of an impact just simple hospitality can have.
I love the Bible.net translation:
Your love must be real love – not some superficial love.
Hating evil with perfect hatred, and holding fast to what is good.

Conflicts are normal in church life. Don’t knock it – some of our most important insights in the bible have come from the apostle Paul trying to knock heads together. And even in our reading we hear these words:
“If it is possible, so far as it depends on you, live peaceably with all.”
Sometimes it’s just not possible and we sadly have to accept that. But and this is the part when I have to say, I’m preaching as much to myself as anyone, we have a choice day by day, hour by hour, to either love and heal or hurt and harm.
Should I pass that piece of gossip on? Do I choose to think that someone is being deliberately mean, or do I choose to think they are trying their best?
One of the most important bits of theory about people I have learnt about is the Karpman drama triangle. This theory says that in destructive relationships we play certain roles, victim, persecutor, rescuer. We also switch roles easily too for example the victim can become persecutor, and the persecutor victim. In my experience the rescuer role is particularly seductive for clergy, but we can also do the others well too.
The drama triangle is a real temptation for us, both in the cathedral and in the diocese.
Hurt people can hurt people, but choosing to love genuinely is the only way to help us to move forward and not be stuck in conflict.
I am also a great believer in the power of one person to shift a whole situation, a whole culture. So, if you feel about yourself - I can’t do anything, I’m just one person, this situation is far too big for me to change. I don’t believe you.
One by one, each of us choosing to love in a genuine way is the only thing that will build this loving, hospitable culture we need, in the cathedral, in the diocese, in our own churches across the diocese. In our world.
Genuine love, generous hospitality. This has been the mission of this cathedral for 1500 years. It will always be its mission.
Let love be genuine. Hate what is evil. Hold fast to what is good.
In the name of God, Father, Son and Holy Spirit. Amen.