Adroddiad Ymweliad â Chadeirlan Bangor
Ym mis Hydref 2024, mewn ymateb i bryderon a gafodd eu dwyn i'w sylw, comisiynodd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John, ymweliad ag Eglwys Gadeiriol Bangor ac adolygiad gan Thirtyone:eight, corff allanol sy’n arbenigo mewn cyngor ar ddiogelu mewn cyd-destunau eglwysig.
Mae’r broses adrodd bellach wedi dod i ben ac mae’r crynodebau o’r adroddiadau canlynol wedi’u rhyddhau’n gyhoeddus. Darllenwch nhw ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y broses ofalus a weddïgar hon. Mae’r adroddiadau’n nodi’r camau nesaf a fydd yn cael eu cymryd.
Bangor Cathedral Visitation Report
In October 2024, in response to concerns which had been brought to his attention, the Archbishop of Wales, The Most Revd Andrew John, commissioned a visitation of Bangor Cathedral and a review by Thirtyone:eight, an external body that specialises in safeguarding advice in church settings.
The reporting process is now complete and the following summary reports have now been released publicly, and can be read on the Church in Wales website.
We are grateful to all who contributed to this careful and prayerful process. The reports give details of the next steps which will now be taken.