Caiff Canoniaid Newydd eu Cyhoeddi ar gyfer Cadeirlan Bangor
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, ac Esgob Enlli, David Morris, wedi penodi pum Canon newydd I Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Daw'r cyhoeddiad yn ystod blwyddyn nodedig i'r Gadeirlan, sy'n chwarae rhan ganolog wrth i'r ddinas ddathlu ei 1,500 mlwyddiant. Wedi'i sefydlu gan Sant Deiniol yn 525 OC, Bangor yw'r ddinas hynaf mewn hanes cofnodedig. Mae'r ddinas yn cychwyn ar ddathliad blwyddyn o hyd trwy gydol 2025, gyda digwyddiadau arbennig i arddangos ei threftadaeth gyfoethog a'i dyfodol disglair.
Y Canoniaid newydd yw:
- Y Parchedig Canon Kim Williams sydd ar hyn o bryd yn Ganon Tertius ac sydd wedi'i ddyrchafu'n Ganon Trysorydd.
- Mae'r Parchedig Roland Barnes wedi'i benodi'n Ganon Primus.
- Mae'r Parchedig Richard Wood wedi'i benodi'n Ganon Tertius.
- Mae'r Parchedig Miriam Beecroft wedi'i phenodi'n Ganon Mygedol.
- Mae'r Parchedig Stuart Elliott wedi'i benodi'n Ganon Mygedol.
Bydd y penodiadau'n dod â chyfanswm aelodaeth y Cabidwl i 16, gan gynnwys pedwar aelod lleyg, tra bydd nifer y canoniaid anrhydeddus yn cyrraedd chwech, gyda thri aelod lleyg yn eu plith. Mae'r grwpiau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio cenhadaeth a gweinidogaeth Dinas Bangor, gan gynnwys Cadeirlan Deiniol Sant. Mae'r canoniaid anrhydeddus yn darparu arweiniad a chefnogaeth werthfawr, gydag aelodau fel yr Athro Helen Wilcox yn gwneud cyfraniadau nodedig. Mae Helen ar hyn o bryd yn arwain y cyd-weithio â Phrifysgol Bangor i arddangos deunyddiau archif ar gyfer dathliadau'r 1500 mlwyddiant.
Wrth groesawu'r Canoniaid, dywed Esgob David, sy'n Ddeon dros dro'r Gadeirlan ar hyn o bryd, "Mae hi’n fraint gan yr Archesgob a minnau i wasanaethu ochr yn ochr â chymaint o gydweithwyr talentog a diwyd sy'n gweithio'n ddi-flino eu cymunedau lleol, ac sydd yn aml â chyfrifoldebau ychwanegol ym mywyd yr esgobaeth ac yn nhalaith ehangach Cymru. Mae'r penodiadau hyn yn adlewyrchu ein diolchgarwch am yr ymroddiad a'r ymrwymiad a welwn yn eu gweinidogaethau a'n hyder y bydd eu doniau'n gwella llywodraethant, cenhadaeth a gweinidogaeth y Gadeirlan."
Dywed y Parchedig Miriam Beecroft, "Mae'r gwahoddiad i fod yn ganon anrhydeddus yn gwneud i mi deimlo'n gwbl sicr yn fy ngweinidogaeth. Rwy'n ddiolchgar bob amser am anogaeth yr esgob a'r archesgob, byddaf yn parhau i wasanaethu fy nghymuned leol a'r esgobaeth gyda chymhelliant newydd."
Dywed Canon Kim Williams, "Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel Canon Tertius ers 2021, felly rwy'n falch iawn bod Esgob David a'r Archesgob Andrew wedi gofyn i mi symud i rôl newydd fel Canon Trysorydd, yn enwedig yn ystod y flwyddyn arbennig hon o ddathlu 1500 o flynyddoedd o dystiolaeth Gristnogol ym Mangor gyda gweledigaeth optimistaidd ar gyfer y dyfodol."
Dywed y Parchedig Roland Barnes, "Rwy'n falch ac yn anrhydeddus o gael fy ngwneud yn ganon yng Nghadeirlan Bangor yn ystod y flwyddyn arbennig hon. Rydym yn byw mewn cyfnod diddorol a dylai'r eglwys fod ar flaen y gad wrth hyrwyddo agweddau, cymedrol a rhesymol ar fywyd. Mae bod yn rhan o gabidwl y gadeirlan, curiad calon ein heglwys ar yr adeg hon, yn gyfrifoldeb cyffrous."
Dywed y Parchedig Stuart Elliott, "Roedd yn syndod mawr i mi gael y cynnig i wasanaethu fel Canon Mygedol Cadeirlan Deiniol Sant. Mewn amryw o ffyrdd dros y 30 mlynedd diwethaf mae dinas Bangor wedi bod yn lle ffurfiannol i mi'n bersonol. Bydd yn anrhydedd a braint gwasanaethu'r Gadeirlan a'r ddinas fel canon anrhydeddus."
Dywed y Parchedig Richard Wood, "Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda gweddill y Cabidwl er mwyn helpu'r Gadeirlan i ddatblygu ei gweinidogaeth o rannu Efengyl cariad a gras Duw, yn ac o amgylch dinas hanesyddol a phwysig Bangor."
Mae rhaglen ddathlu'r Gadeirlan yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau nodedig trwy gydol 2025, gan gynnwys:
- Darllediad byw o Sunday Worship BBC Radio 4.
- Cynhyrchiad cerddorol newydd o'r enw Dinas Noddfa / City of Refuge
- Lansio CD Cerddoriaeth Eglwysig Newydd Gymreig wedi'i recordio gan Gôr Cadeirlan Deiniol Sant.
- Gosod eicon newydd o Deiniol Sant.
Cynhelir y seremoni sefydlu'r canoniaid newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, amae’r dyddiad i'w gadarnhau.
New Canons Announced for Bangor Cathedral
The Archbishop of Wales, Andrew John, and the Bishop of Bardsey, David Morris, have appointed five new Canons to Saint Deiniol's Cathedral in Bangor. The announcement comes during a landmark year for the Cathedral, which plays a central role as the city celebrates its 1500 anniversary. Founded by St. Deiniol in 525 AD, Bangor is the oldest city of its name in recorded history. The city is embarking on a year-long celebration throughout 2025, with special events to showcase its rich heritage and bright future.
The new Canons are:
- The Reverend Canon Kim Williams who is currently Canon Tertius and has been elevated to Canon Treasurer.
- The Reverend Roland Barnes has been appointed Canon Primus.
- The Reverend Richard Wood has been appointed Canon Tertius.
- The Reverend Miriam Beecroft has been appointed an Honorary Canon.
- The Reverend Stuart Elliott has been appointed an Honorary Canon.
The appointments will bring Chapter's total membership to 16, including four lay members, while the number of honorary canons will reach six, with three lay members among them. These groups play vital roles in overseeing the mission and ministry of the City of Bangor, including St Deiniol's Cathedral. The honorary canons provide valuable guidance and support, with members such as Professor Helen Wilcox making significant contributions to the Bangor 1500 celebrations. Professor Helen is currently collaborating with Bangor University to showcase archive materials for the 1500 anniversary celebrations.
Welcoming the Canons, Bishop David, who is currently acting Dean of the Cathedral, says, “'The Archbishop and I have the privilege of serving alongside so many talented and diligent colleagues who work tremendously hard in their local communities, and who often have additional responsibilities in the life of the diocese and in the wider province of Wales. These appointments reflect our gratitude for the dedication and commitment we recognise in their ministries and our confidence that their gifts will enhance the governance, mission and ministry of the Cathedral.”
Revd Miriam Beecroft says, “The invitation to be an honorary canon makes me feel affirmed in my ministry. I am always grateful for the bishop and archbishop's encouragement, and I continue to serve my local community and the diocese with a new spring in my step.
Canon Kim Williams says, “It’s been an honour to serve as Canon Tertius since 2021, so I am delighted that Bishop David and Archbishop Andrew have asked me to move to a new role as Canon Treasurer, especially during this special year of celebration of 1500 years of Christian witness in Bangor with an optimistic vision for the future.”
Revd Roland Barnes says, “I'm delighted and honoured to be made a canon in Bangor Cathedral in this special year. We live in interesting times and the church ought to be at the forefront of promoting sane, moderate, reasonable outlooks on life. To be part of the cathedral chapter, the beating heart of our church at this time, is an exciting responsibility. “
Revd Stuart Elliott says, “"It was a great surprise to me to be asked to serve as Honorary Canon of St. Deiniol's Cathedral. In a variety of ways over the past 30 years the city of Bangor has been a formational place for me personally. It will be an honour and privilege to serve the cathedral and city as honorary canon."
Revd Richard Wood says, “I look forward to the opportunity to work with the rest of the Chapter to help the Cathedral develop it's ministry of sharing the Gospel of God's love and grace in and around the historic and important city of Bangor.”
The Cathedral's anniversary programme includes a series of high-profile events throughout 2025, including:
- A live broadcast of BBC Radio 4's Sunday Worship.
- A brand new musical production called Dinas Noddfa / City of Refuge
- The launch of New Welsh Church Music CD recorded by Saint Deiniol’s Cathedral Choir.
- The installation of a new icon of Saint Deiniol.
The installation of the new canons takes place on at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor at a date to be confirmed.