Dinas Noddfa
Tocynnau ar gaelDinas Noddfa
Tickets available30/10/2026, midnight - 31/10/2026, midnight
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor, Cathedral Close, Bangor.
Mae gan bob dinas ei stori. Mae stori Bangor yn dechrau hefo noddfa - lle i ganfod lloches.
Mae Dinas Noddfa yn dod â 1,500 o flynyddoedd o hanes Cadeirlan Bangor yn fyw drwy ddrama, cerddoriaeth a chân.
Mae’r stori’n dechrau pan fydd Mark a Ruth, cwpl ifanc o Fangor, yn camu i mewn i’r Gadeirlan. Wrth iddyn nhw grwydro o gwmpas, mae pobl a digwyddiadau o’i gorffennol yn ymddangos o’u cwmpas, o’r gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Deiniol Sant i le’r Gadeirlan yn y ddinas heddiw.
Mae’r cynhyrchiad wedi’i ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan Cefin Roberts. Mae’n cynnwys perfformwyr o Ysgol Glanaethwy, cast o’r gymuned a chorau lleol - Côr Cofnod a Hogia Ddwylan.
Mae’r cynhyrchiad yn defnyddio ei leoliad hanesyddol mewn ffordd unigryw ac yn gofyn beth mae cael croeso a lloches ym Mangor yn ei olygu heddiw.
Cymraeg yw prif iaith y cynhyrchiad. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg.
Perfformiadau yng Nghadeirlan Bangor:
- Dydd Gwener 30 Hydref am 7:30yh
- Dydd Sadwrn 31 Hydref am 2yp
- Dydd Sadwrn 31 Hydref am 7:30yh
The story begins when Mark and Ruth, a young couple from Bangor, step inside the Cathedral. As they explore, people and events from its past appear around them, from the Christian community founded by St Deiniol to the Cathedral’s place in the city today.
Written and directed by Cefin Roberts, the production features performers from Ysgol Glanaethwy, a community cast and local choirs - Côr Cofnod and Hogia Ddwylan.
The production uses its historic location in a unique way and asks what it means to find welcome and sanctuary in Bangor today.
The production is primarily in Welsh. Learners are very welcome.
Performances at Bangor Cathedral:
- Friday 30 October at 7:30pm
- Saturday 31 October at 2pm
- Saturday 31 October at 7:30pm