minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Hysbys wythnosol


Llyfryn Hydref 2021

Mynnwch gopi o’r llyfryn Hydref 2021, sy’n cynnwys llythyr oddi wrth yr Is-Ddeon, cynlluniau am y misoedd nesaf, apeliadau am gymorth, ac amlinelliad o’n defodau tan Ŵyl Crist y Brenin.


Ar y Sul ar hyn o bryd

O'r Sul hwn tan ddiwedd Tachwedd, bydd ein patrwm addoli yng Nghadeirlan Deiniol Sant yn cynnwys:

  • dathliad o’r Holy Eucharist am 8.15am (gwasanaeth Saesneg)
  • dathliad o’r Cymun Bendigaid ar Gân am 9.15am (yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; gwasanaeth Cymraeg)
  • dathliad o’r Choral Holy Eucharist am 11am (eto, yn llawen, yn lliwgar ac yng Nghorff yr Eglwys; gwasanaeth Saesneg).

Caiff paned ei weini rhwng y Cymun 9.15am ac 11am – gyda gwahoddiad i aros ar ôl y Cymun 9.15am, neu ddod yn gynnar ar gyfer y Cymun 11am; bydd diodydd oer yn cael eu gweini ar ôl y Cymun 11am.


Cynnull bob cwr o Fangor

Nid ydym yn ail-ddechrau addoli ar y Sul yn Eglwys y Groes, Maesgeirchen ac Eglwys San Pedr, Penrhosgarnedd ar hyn o bryd. Mae croeso cynnes o waelod calon i aelodau cynulleidfaoedd Eglwys y Groes ac Eglwys San Pedr i’n gwasanaethau yn y Gadeirlan.


Gwedd newydd

Fe sylwch ein bod wedi dechrau defnyddio delwedd newydd ar gyfer y Gadeirlan a Bro Deiniol – gyda diolch i Carwyn Lloyd Jones o gwmni dylunio Hoffi. 

Mae’r ddwelwedd newydd wedi ei gwreiddio yn y ffens gyll a adeiladodd Deiniol yma, yn gysgod ac yn noddfa. Da yw cael delwedd newydd a chyfoes, ond â’i thraed yn ein hanes hefyd.


Ein Clochydd arbenning ar ben Tŵr Skeffington | Our wonderful Flagman atop the Skeffington Tower

Yr wythnos ddiwethaf yn y Gadeirlan

Bu’n wythnos brysur ers fore Sul diwethaf.

  • Roedd yn braf croesawu cynifer o bob cwr o’r esgobaeth a thu hwn i’r Gosber a’r Sefydlu nos Sul diwethaf. Da oedd cael canu’n gynulleidfaol am y tro cyntaf, a da oedd cael canu corawl mor gywrain, a’r geiriau cyntaf ar gân yn weriglau yn Gymraeg. Mae’n diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd more hael o’u hamser i sicrhau addoliad safonol a chroeso cynnes.
  • Mae’r faner o liwiau newydd wedi parhau i hedfan o ben Tŵr Skeffington. Diolchwn i’n Clochydd, John, am ei waith yn yr uchelfannau.
  • Bu Gerwyn o Pianos Cymru yma ddydd Gwener yn tiwinio’r pianos yng Nghorff yr Eglwys ac yn yr Ysgol Gân.

Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Atgyweirio hanfodol

Dros y misoedd i ddod, rydym yn wynebu costau atgyweirio sylweddol iawn. 

Bydd angen i ni wario £22,000 ar waith iechyd a diogelwch brys – disodli rhai gwifrau trydanol hynafol, gosod mân daclau golau newydd, a diogelu’r adeilad gyda system canfod tân. 

Bydd angen i ni hefyd wario £18,000 ychwanegol ar waith strwythurol a gwaith adfer – gan atal treiddiad dŵr niweidiol pellach yn Nhŵr Skeffington a Thŵr Scott, ailaddurno wal yr eil ddeheuol, ac ail-baentio wynebau’r cloc a drysau’r Gadeirlan. 

Bydd yr atgyweiriadau hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer prosiect mwy i warchod ac adnewyddu Cadeirlan Deiniol Sant wrth inni baratoi i dathlu ein penblwydd yn fileniwm a hanner maes o law. 

Os gallwch chi helpu gyda rhodd arbennig, waeth pa mor fawr neu fach, siaradwch ag aelod o dîm y Gadeirlan.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



Weekly notices


Autumn 2021 booklet

Be sure to get a copy of the Autumn 2021 booklet, which includes a letter from the Sub-Dean, plans for the coming months, appeals for help, and an outline of our observances until the Feast of Christ the King.


On Sundays

From this Sunday until the end of November, our pattern of worship at Saint Deiniol’s Cathedral consists of: 

  • a celebration of the Holy Eucharist at 8.15am (quietly in the Presbytery; an English-language service)
  • a celebration of the Cymun Bendigaid ar Gân at 9.15am (joyfully, colourfully and musically in the Nave; a Welsh-language service)
  • a celebration of the Choral Holy Eucharist at 11am (again, joyfully, colourfully and musically in the Nave; an English-language service)

Coffee and tea are served between the 9.15am and 11am Eucharist – please stay after the 9.15am Eucharist, or come early for the 11am Eucharist; a drinks reception follows the 11am Eucharist.


Gathering from across the city

We are not recommencing Sunday worship at Eglwys y Groes, Maesgeirchen and St Peter’s Church, Penrhosgarnedd at this time. The warmest of welcomes is extended to members of the congregations of Eglwys y Groes and St Peter’s to the services at the Cathedral.


A new look

You will notice that we have started to use a new image for the Cathedral and Bro Deiniol – with thanks to Carwyn Lloyd Jones from the Hoffi design company. 

The new image is rooted in the hazel fence that Deiniol built here as a shelter and sanctuary. It’s good to have a new and contemporary image, but with its feet in our history too.


Gerwyn o Pianos Cymru yn y Gadeirlan yr wythnos ddiwethaf hon | Gerwyn from Pianos Cymru in the Cathedral this past week

The past week at the Cathedral

It’s been a busy week since last Sunday morning.

  • It was great to welcome so many from across the diocese and beyond to the Evensong and Installations last Sunday night. It was good to have congregational singing for the first time, and wonderful to have such elaborate and beautiful choral singing. A big thank you to everyone who generously donated their time to ensure quality worship and a warm welcome.
  • The new banner of colours has continued to fly from the top of the Skeffington Tower. We thank our Flagman, John, for his continued expert work in the heights.
  • Gerwyn from Pianos Cymru was here on Friday to tune the pianos in the Nave and the Song School.

Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Vital repairs

Over the months ahead, we’re facing very substantial repair costs. 

We will need to spend £22,000 on urgent health and safety work – replacing some ancient electrical wiring, installing new light fittings, and protecting the building with a fire detection system. 

We will also need to spend another £18,000 on structural and restoration work – preventing further damaging water penetration in the Skeffington Tower and the Scott Tower, redecorating the south aisle wall, and repainting the clock faces and the Cathedral doors. 

These repairs will pave the way for a bigger project to conserve and recondition Saint Deiniol’s Cathedral as we prepare to celebrate our millennium and a half anniversary. 

If you are able to help with a special donation, no matter how large or small, please speak to a member of the Cathedral team.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.