minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Vivat Regina!

Y Jiwbilî

Ysgrifenna’r Is-Ddeon: 

Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd yn hael o’u hamser a’u doniau i’n cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu’r Jiwbilî. 

Mae wedi bod yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn croesi’r trothwy ac yn cael croeso mor gynnes i weithgareddau mor safonol yn y Gadeirlan. 

Diolch yn fawr iawn.


My Place

Dydd Sadwrn 18 Mehefin am 7.30pm

Cynhyrchiad dramatig gan gwmni theatr Riding Lights, yw “My Place” sy’n archwilio bywydau pedwar person ifanc heb le i alw yn gartref. 

Dilynwn hwy drwy gartrefi gwahanol, drwy’r gyfundrefn gyfreithiol, a thrwy fyrlwm eu bywydau bregus. 

Mae teithiau rhyfeddol y plant bywiog, dyfeisgar hyn yn datblygu trwy stori a chân, gan ofyn inni ystyried pa le a allai fod i ni yn eu bywydau nhw. 

Ceir tocynnau arlein yma neu gan Naomi am £10.


Pride

Mehefin yw mis digwyddiadau Pride mewn cynifer o ddinasoedd. 

Mae Pride yma yn golygu hyrwyddo hunan-gadarnhad, urddas, cydraddoldeb ac amlygrwydd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwîar ac sy’n cwestiynu (LHDTC+). 

Yn y Gadeirlan fis Mehefin eleni, rydym yn chwifio baner Pride am y tro cyntaf o Dŵr Ysgefintwn, ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol. 

Da oedd croesawu gwasanaeth Cymun Caplaniaeth LHDTC+ i’r Gadeirlan ddoe, a da o beth yw y bydd gorymdaith Pride y ddinas yn diweddu yng Nghlos y Gadeirlan ar 25 Mehefin. 

Yn y cyfamser, ceir dau ddigwyddiad arall o bwys:


Clas ar Zoom

Dydd Llun 20 Mehefin am 6.30pm

Ein gwestai’r wythnos nesaf yw Gareth Evans Jones. 

Mae’r Dr Evans Jones yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor, gyda diddordeb yn hanes derbyniad y Beibl a’i rôl mewn materion cyfoes. 

Mae hefyd yn nofelydd a dramodydd o fri, ac wedi ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.


Owen Hurcum mewn sgwrs â’r Is-Ddeon

Dydd Iau 23 Mehefin am 6.30pm

Ym mis Mai 2021 daeth Owen Hurcum yn Faer Bangor, a hefyd yn faer agored anneuaidd cyntaf unrhyw ddinas yn y byd. Yn ystod eu tymor fel Maer, mae Owen wedi siarad yn huawdl o blaid hawliau trawsryweddol. Maent yn symud i ffwrdd o Fangor am gyfnod ar ddiwedd eu tymor fel Maer, ond yn dychwelyd i’r Gadeirlan ar gyfer y sgwrs agored a chyhoeddus hon gyda’r Is-Ddeon yng Nghorff yr Eglwys. Cynhelir derbyniad gwin o 6pm (ar ôl Gosber ar Gân am 5.30pm), ac eto ar ôl y drafodaeth.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

16 Mehefin | Alice Caldwell | Recorder Baroc

Mae Alice Caldwell yn un o Ysgolheigion y Gân y Gadeirlan. Yn ei datganiad, bydd yn perfformio ystod eang o gyfansoddiadau recorder Baróc gan gyfansoddwyr megis Handel, Telemann a Sammartini.


Buchedd Bangor

Trydydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod tan ddiwedd Mehefin. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


Vivat Regina!

The Platinum Jubilee

The Sub-Dean writes: 

I am grateful to all who gave so generously of their time and talent to our series of events to celebrate the Jubilee. 

It has been wonderful to see so many people crossing the threshold and welcomed so warmly to such well-prepared activities at the Cathedral. 

Thank you, all, very much.


My Place

Saturday 18 June at 7.30pm

“My Place” is a dramatic production by Riding Lights Theatre Company that explores the journeys of four young people with no place to call home. 

Bounced between social workers and different homes, defined by immigration documents and court reports, mistrusted and mistreated, can they find somewhere to be themselves? 

The remarkable journeys of these lively, resourceful children unfold through story and song, asking us to consider what place we might have in their lives. 

Tickets are available online here or from Naomi for £10.


Pride

June is the month of Pride events in many cities. 

Pride here means the promotion of the self-affirmation, dignity, equality and increased visibility of lesbian, gay, bisexual, transgender, queer and questioning (LGBTQ+) people. 

At the Cathedral this June, we’re fly the Pride flag for the first time from the Skeffington Tower, and hosting a number of significant events. 

It was good to host the diocesan LGTBQ+ Chaplaincy Eucharist yesterday; and it will be good to welcome the Bangor Pride parade onto the Cathedral grounds and to the Deanery garden on 25 June. 

There are two other elements in our programme:


Clas on Zoom

Monday 20 June at 6.30pm

Our guest next Monday is Dr Gareth Evans Jones. 

Dr Evans Jones is Lecturer in Religious Studies at Bangor University, with an interest in the reception history of the Bible and its role in contemporary issues. 

He is also a distinguished novelist and playwright, twice winner of the Drama Medal at the National Eisteddfod, and the founder of Llyfrau Lliwgar, North Wales’s Welsh-language LGBTQ+ reading group.


Owen Hurcum in conversation with the Sub-Dean

Thursday 23 June at 6.30pm

In May 2021 Owen Hurcum became Mayor of Bangor, and also the first openly non-binary mayor of any city in the world. 

During their term as Mayor, Owen has spoken eloquently in favour of transgender rights. 

Owen returns to the Cathedral for this open and public conversation with the Sub-Dean in the Nave of the Cathedral. 

A free drinks reception is held from 6pm (after Choral Evensong at 5.30pm), and again after the discussion.


Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

16 June | Alice Caldwell | Baroque Recorder

Alice Caldwell is one of the Choral Scholars at the Cathedral. In her recital, she will be performing a wide range of Baroque recorder pieces by composers including Handel, Telemann and Sammartini.


Buchedd Bangor

The third edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This third edition is a companion to the period to the end of June. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.