Y Tra Parchedig Kathy Jones
The Very Reverend Kathy Jones
cathedraladmin@esgobaethbangor.net 01248 354 999
Tŷ Deiniol, Clos y Gadeirlan / Cathedral Close, Bangor LL57 1RL
Kathy Jones
Yn un a fagwyd yng Nghorris, i’r gogledd o Fachynlleth, cychwynnodd Kathy ffurfiant diwinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ac aeth ymlaen â’i hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham. Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn Nghadeirlan Bangor ym 1992 ac yn offeiriad ym 1997. Roedd yn Gurad ym Mywoliaeth Reithorol Caergybi, cyn symud i Fangor ym 1994 i fod yn Offeiriad-â-Gofal Eglwys Sant Pedr, Penrhosgarnedd a Chaplan Ysbyty Gwynedd. Ym 1999, symudodd Kathy i fod yn Ficer Betws-y-coed, Dolwyddelan, Penmachno a Chapel Curig, a bu’n gweinidogaethu yno am saith mlynedd.
Yn 2006, symudodd Kathy yn ôl i’r sector gofal iechyd, gan ddod yn Brif Gaplan Ymddiriedolaeth GIG Northumbria, yn gyfrifol am reoli tîm aml-ffydd o 16 o gaplaniaid a 120 o wirfoddolwyr ledled Northumbria a Gogledd Tyneside. Bu hefyd yn Ddarlithydd Ymweld ym Mhrifysgol Northumbria, ar bynciau marwolaeth a marw, ysbrydolrwydd ar ddiwedd bywyd a sgiliau cyfathrebu mewn sefyllfaoedd anodd.
Mae Kathy yn hoff o wneud ychydig o gerdded, treulio amser gyda’r teulu a ffrindiau a mynd i’r sinema pan fydd unrhyw amser sbâr.
Kathy Jones
Brought up in Corris, north of Machynlleth, Kathy began her theological formation at Cardiff University and furthered her training for ordained ministry at Queen’s College, Birmingham. She was ordained deacon at Bangor Cathedral in 1992 and priest in 1997. She was a curate in the Rectorial Benefice of Holyhead, before moving to Bangor in 1994 to be Priest-in-charge of St. Peter’s Church, Penrhosgarnedd and Chaplain of Ysbyty Gwynedd. In 1999 Kathy moved to be Vicar of Betws y Coed, Dolwyddelan, Penmachno and Capel Curig, a post she held for seven years.
In 2006 Kathy moved back into the healthcare sector, becoming Lead Chaplain at Northumbria Healthcare NHS Foundation Trust, where she was responsible for managing a multi-faith team of 16 chaplains and 120 volunteers working throughout Northumberland and North Tyneside. She was also a Visiting Lecturer at Northumbria University, on the subjects of death and dying, spirituality at the end of life and communication skills in difficult situations.
Kathy likes to do bit of walking, catch up with family and friends and go to the cinema in any spare time.