Archddiacon Meirionydd
Archdeacon of Meirionydd
Andrew Jones
Magwyd Andrew ym Mhwllheli ym Mhen Llŷn. Aeth ymlaen i astudio Diwinyddiaeth ym Mhrifysgolion Cymru (Bangor a Llanbed), Dulyn a Jerwsalem. Wedi hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, fe’i hordeiniwyd ym 1985, gan wasanaethu ei deitl fel Is-ganon Cadeirlan Bangor. Yn dilyn hyn, fe wasanaethodd fel Rheithor Dolgellau, yna fel Darlithydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Astudiaethau Bugeiliol yng Ngholeg Sant Mihangel, Llandaf. Ym 1996, dychwelodd i Ben Llŷn, gan wasanaethu fel Rheithor Llanbedrog, Llannor, Llanengan a Llangian, ac yn ddiweddarach fel Deon Bro. Sefydlwyd Andrew fel Archddiacon Meirionnydd yn 2010, ac mae hefyd yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli.
Mae ei feysydd diddordeb ymchwil yn cynnwys testunau Cristnogol canoloesol cynnar, Sgroliau’r Môr Marw, yr Eglwys Ôl-Rufeinig Frythonig (Geltaidd) gynnar, yn ogystal â phrofiad cyfoes pererindota. Mae hefyd yn arwain pererindodau yng ngwledydd Prydain ac Ewrop. Ef yw awdur Pererindod (1995), Every Pilgrim’s Guide to Celtic Britain and Ireland (2002), A Pilgrimage to Bardsey(2009), a Pilgrimage: The Journey to Remembering our Story (2011). Cyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, Mary: A Gospel Witness to Transfiguration and Liberation, yn 2014.
Mae diddordebau personol Andrew yn cynnwys beicio, cerdded, popeth Sbaenaidd ac Eidalaidd, iconograffiaeth a blasu gwinoedd.
Andrew Jones
Andrew was brought up in Pwllheli on the Llyn Peninsula before reading Theology at the Universities of Wales (Bangor and Lampeter), Dublin and Jerusalem. After training for ministry at Trinity College, Dublin he was ordained in 1985, serving his title as Minor Canon of Bangor Cathedral. Following this he served as Rector of Dolgellau, then as Lecturer in Theology at Cardiff University and Director of Pastoral Studies at St Michael’s College, Llandaff. In 1996 he returned to the Llyn Peninsula and served as Rector of Llanbedrog, Llannor, Llanengan and Llangian, and later as Area Dean. Andrew was installed Archdeacon of Meirionnydd in 2010, and is also Vicar & Ministry Area Leader of Bro Enlli.
His research interests include early medieval Christian texts, the Dead Sea Scrolls, the early post-Roman British (Celtic) Church, and the contemporary experience of pilgrimage. He leads pilgrimages in Britain and Europe, and is the author of Pererindod (1995), Every Pilgrim’s Guide to Celtic Britain and Ireland (2002), A Pilgrimage to Bardsey (2009), and Pilgrimage: The Journey to Remembering our Story (2011). His most recent book, Mary: A Gospel Witness to Transfiguration and Liberation, was published in 2014.
Andrew’s personal interests include biking, walking, everything Spanish and Italian, iconography and wine-tasting.